Teithwyr o Ddenmarc i orfod hunan-ynysu am 14 diwrnod

  • Cyhoeddwyd
ffermFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Ddenmarc ddifa'r holl fincod yn y wlad - hyd at 17 miliwn

Bydd yn rhaid i bobl hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd i Gymru o Ddenmarc o ddydd Gwener ymlaen.

Dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething fod hyn yn dilyn nifer o achosion o SARS-CoV-2 - math newydd o coronafeirws - mewn ffermydd mincod yn Nenmarc.

Mae achosion wedi'u canfod mewn pum fferm mincod yn y gogledd-orllewin ac ymysg 12 o bobl yn y cymunedau cyfagos.

O 04:00 fore Gwener, bydd yn rhaid i bobl sy'n teithio i Gymru o Ddenmarc hunan-ynysu am bythefnos.

Bydd teithwyr i Gymru o'r Almaen a Sweden hefyd yn gorfod hunan-ynysu ar ôl dod yn ôl i Gymru o 04:00 ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd.

Mae'r holl wybodaeth am a ydy gwledydd a thiriogaethau wedi'u heithrio ai peidio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.