Byron Hayward yn gadael tîm rheoli rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr amddiffyn rygbi Cymru, Byron Hayward, wedi gadael ei rôl ar unwaith.
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru mae Hayward wedi gadael trwy gytundeb.
Mae Cymru wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf, gan gynnwys yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe gwlad yn erbyn Yr Alban ddiwedd mis Hydref.
Mae Cymru ar fin chwarae yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref, gyda'r gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon nos Wener.
Yn ôl yr undeb bydd y tîm hyfforddi presennol yn ysgwyddo'r cyfrifoldebau am hyfforddi amddiffynnol ar gyfer y gystadleuaeth honno.
Fe ymunodd cyn-hyfforddwr Cymru dan 20 â thîm hyfforddi'r prif hyfforddwr Wayne Pivac yn 2019, yr un pryd â chyn-gapten Cymru Sam Warburton.
Fe gyhoeddodd Warburton ganol mis Hydref ei fod yn rhoi'r gorau i'w waith gyda'r tîm hyfforddi er mwyn canolbwyntio ar ei deulu.
Hyfforddwr 'ymroddedig'
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac: "Hoffwn ddiolch i Byron am ei holl waith caled gyda Chymru a diolch iddo am ei onestrwydd mewn cyfarfodydd diweddar.
"Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â Byron ers chwe blynedd a hanner, mae'n hyfforddwr ymroddedig sydd wedi cael llwyddiant mawr yn ei yrfa.
"Wrth adlewyrchu'r ymgyrch ddiwethaf, penderfynwyd ar y cyd mai'r ffordd orau ymlaen i Gymru ac i Byron yw iddo gamu i lawr o'i rôl."
"Yn y tymor byr, ar gyfer y pedair gêm sydd i ddod, bydd y tîm hyfforddi presennol yn rheoli'r amddiffyniad yn seiliedig ar y sylfeini a roddwyd ar waith eisoes", meddai Pivac, "yna byddwn yn ceisio llenwi'r swydd honno'n llawn amser maes o law."
Dywedodd Byron Hayward ei fod wedi mwynhau ei amser gyda Chymru a'i bod "yn anrhydedd hyfforddi fy ngwlad".
"Fel y dywedais erioed o'r diwrnod cyntaf, y tîm sy'n dod gyntaf," meddai, "ac ar ôl adlewyrchu'r ymgyrch ddiwethaf gyda Wayne roeddem yn teimlo ei bod yn well imi gamu o'r neilltu."
"Rwy'n credu mai hwn yw'r penderfyniad iawn i mi fy hun a'r garfan wrth iddynt baratoi ar gyfer ymgyrch newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018