Menyw wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
B4398Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r B4398 ger Llanymynech, rhwng Y Trallwng a Chroesoswallt

Mae menyw 63 oed wedi marw ar ôl iddi gael ei tharo gan gar yng ngogledd Powys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r B4398 yn ardal Carreghwfa, i'r de o bentref Llanymynech am tua 15:30 brynhawn Gwener wedi'r gwrthdrawiad rhwng cerddwr a char BMW X1.

Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.

Dydy'r heddlu heb gyhoeddi ei henw, ond maen nhw'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar y pryd neu a welodd y gwrthdrawiad.

Mae modd gwneud hynny ar-lein, dolen allanol neu drwy ffonio 101.