Chwech yn y llys ar gyhuddiad o herwgipio plentyn ym Môn

  • Cyhoeddwyd
LlysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd y chwech yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun

Mae tri dyn a thair dynes wedi ymddangos o flaen llys i wynebu cyhuddiad o herwgipio plentyn ar Ynys Môn.

Dywedodd James Neary, ar ran yr erlyniad yn Llys Ynadon Llandudno fod y plentyn, sydd o dan 10 oed, wedi ei ddarganfod heb ei anafu mewn cerbyd yng ngwasanaethau Watford Gap ar yr M1 ar 4 Tachwedd.

Cafodd y chwech unigolyn eu cadw yn y ddalfa cyn eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 7 Rhagfyr.

Mae'r chwech wedi eu cyhuddo o herwgipio plentyn o dan 10 oed yng Ngaerwen, Ynys Môn.

Mae un diffynnydd hefyd yn wynebu cyhuddiad ychwanegol o fod â chyllell yn ei feddiant.