Disgwyl cyhoeddiad am drefn arholiadau'r haf nesaf

  • Cyhoeddwyd
CanlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi'r cynlluniau terfynol ddydd Mawrth yn y Senedd

Mae disgyblion ac athrawon ar draws Cymru yn disgwyl cyhoeddiad am sut fydd cymwysterau Safon Uwch a TGAU yn cael eu penderfynu yn yr haf.

Mae yna awgrym cryf y bydd arholiadau TGAU yn cael eu canslo, a graddau'n seiliedig ar asesiadau a gwaith cwrs.

Yn ôl cyngor gafodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, fe ddylai'r mwyafrif neu holl arholiadau Safon Uwch gael eu canslo hefyd.

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r pandemig coronafeirws barhau i darfu ar addysg.

Mae yna bryder am effaith anghyfartal y pandemig ar addysg oherwydd bod rhai disgyblion wedi colli mwy o amser o'r ysgol nag eraill.

Mae cyrsiau eisoes wedi cael eu haddasu gan y bwrdd arholi, i gydnabod effaith cau ysgolion ym mis Mawrth.

Ond ers i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol llawn amser ym mis Medi, mae nifer ohonynt wedi gorfod hunan-ynysu am bythefnos neu fwy oherwydd achosion positif o Covid-19 ymhlith disgyblion neu staff.

Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 82% o ysgolion uwchradd Cymru wedi gweld o leiaf un achos ers mis Medi.

Cafodd arholiadau eleni eu canslo ar ôl i ysgolion gau ym mis Mawrth, ond bu'n rhaid hepgor y drefn ar gyfer penderfynu graddau wedi ymateb ffyrnig i'r canlyniadau, a graddau ysgolion a cholegau gafodd eu rhoi yn y pendraw.

Y darlun ar draws y DU

Mae penderfyniadau am yr arholiadau eisoes wedi cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Yn Yr Alban fe fydd gwaith cwrs ac asesiadau athrawon yn lle arholiadau National 5, sy'n cyfateb a TGAU, ond fe fydd 'na arholiadau o hyd ar gyfer yr Highers.

Ar hyn o bryd bwriad Lloegr a Gogledd Iwerddon yw cynnal arholiadau ond yn hwyrach yn yr haf.

Mewn cyngor i'r Gweinidog Addysg, dywedodd y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru y dylai arholiadau TGAU'r haf gael eu canslo.

Fe ddylai'r graddau ar gyfer TGAU ac Uwch Gyfrannol (AS) gael eu penderfynu ar sail gwaith cwrs ac asesiadau wedi eu gosod a'u marcio gan y bwrdd arholi CBAC, meddai'r corff.

Ar gyfer Safon Uwch, mae'n argymell bod yna un arholiad ar gyfer pob pwnc, gydag ail gyfle i ddisgyblion sefyll yr arholiad be bai nhw'n gorfod hunan-ynysu.

Fe fyddai gwaith cwrs a thasgau penodol hefyd yn cyfrannu at y graddau.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cymwysterau Cymru wrth Kirsty Williams y dylai arholiadau TGAU yr haf nesaf gael eu canslo

Dywedodd adroddiad gwahanol gan banel arbenigol na ddylai unrhyw arholiadau ddigwydd, ac fe ddylai graddau gael eu penderfynu ar sail asesiadau mewn ysgolion a cholegau fyddai wedyn yn cael eu cymedroli.

Tra'n credu nad oes modd bwrw 'mlaen gydag arholiadau fel arfer, mae undeb dysgu yr NASUWT yn poeni bod y sefyllfa'n cynyddu llwyth gwaith athrawon.

Yn ôl Sion Amlyn, swyddog maes a pholisïau'r undeb, mae angen eglurder am y ffordd ymlaen.

"Mae'r athrawon, ein haelodau ni'n dweud eu bo' nhw'n cynnal dwy system asesu - maen nhw'n paratoi ar gyfer TGAU a Lefel A ond ma' nhw hefyd yn paratoi system asesu parhaus ac mae rhedeg dwy system gyfochrog yn fyrdwn llwyth gwaith anferth," meddai.

System 'cryf a chadarn'

Mae'r undeb yn awyddus i'r bwrdd arholi fod yn gyfrifol am unrhyw asesiadau er mwyn rheoli'r pwysau ar ysgolion.

Wrth sôn am y posibilrwydd o gael gwared ar arholiadau Safon Uwch, dywedodd Mr Amlyn bod angen sicrhau bod system "cryf a chadarn" mewn lle.

"Byddai prifysgolion, nid yn unig yng Nghymru ond tu hwnt hefyd yn gallu derbyn yr asesiad yna fel un teg a theilwng ac yn un sy'n gallu cael ei gymharu ochr yn ochr ag asesiadau ar draws gwledydd Prydain," ychwanegodd.