Rhybudd am ddathlu brechlyn wrth i 22 yn rhagor farw

  • Cyhoeddwyd
drakeford

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi mynegi pryder at y modd "buddugoliaethus y mae rhai o'r cyfryngau asgell dde" wedi adrodd am gyhoeddiad Pfizer a BioNTech am frechlyn i Covid-19.

Dywedodd yn y Senedd ddydd Mawrth bod y cyhoeddiad "i'w groesawu" ond nad oedd am i bobl gael yr argraff "bod coronafeirws drosodd a bod cymorth rownd y gornel".

Daw ei sylwadau wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi eu bod wedi cofnodi 22 yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru gyda coronafeirws dros y 24 awr diwethaf, a chadarnhau 444 o achosion newydd o'r feirws.

Roedd 61 o'r achosion newydd yng Nghaerdydd, 55 yn Rhondda Cynon Taf, a 38 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n mynd â chyfanswm yr achosion yng Nghymru i 61,356.

Bellach mae 2,063 o bobl wedi marw yng Nghymru gyda Covid-19 ers dechrau'r pandemig.

'Camau pwysig'

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford: "Mae yna gamau pwysig iawn i'w cymryd cyn y bydd y brechlyn yna, neu un arall o'r 11 brechlyn sydd wedi cyrraedd profion Rhan 3, ddod i fodolaeth, a dwi wir ddim am i bobl Cymru gael y neges anghywir o'r hyn gafodd ei ddweud ddoe.

"Byddwn yn brwydro coronafeirws gyda'r arfau sydd gennym ar hyn o bryd am fisoedd lawer i ddod, ac er ein bod yn edrych ymlaen i'r diwrnod pan fydd brechlyn ar gael, rhaid i ni fod yn ofalus am sut yr ydym yn delio gyda hynny."

Dywedodd y bydd Cymru'n derbyn ei chyfran o unrhyw frechlyn gan Lywodraeth y DU yn ôl y boblogaeth, ond mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd "storio a dosbarthu" y cyffur.

Ychwanegodd: "Wrth sôn am frechlyn Pfizer mae'r cyfrifoldeb yna'n bwysig gan ei fod yn frechlyn sy'n rhaid ei stori ar dymheredd isel iawn.

"Mae'r trefniadau sy'n disgyn ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru yn rhai real iawn, ond rydym wedi bod yn paratoi ers misoedd."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal Merthyr wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion positif

Cynlluniau ar gyfer Merthyr

Bydd cynllunwyr milwrol yn ymuno â'r tîm sydd yn edrych ar opsiynau ar gyfer "profi tref gyfan" ym Merthyr Tudful yr wythnos hon, yn ôl y Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford fod "tîm cynllunio" wedi ei sefydlu "a'i bwrpas yw cynllunio ar gyfer profi bwrdeistref gyfan ym Merthyr".

Roedd y tîm cynllunio presennol, meddai, yn cael ei arwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghyd â'r awdurdod lleol.

"Bydd tri chynllunydd milwrol yn ymuno â'r tîm hwnnw, ddydd Iau yr wythnos hon, ac fe fyddant yn unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Lerpwl, a byddant yn dod â hynny i gyd i'r grŵp cynllunio yma," meddai Mr Drakeford.

"Ond mae'n dal yn rhan o gynllunio. Ac mae'n gynllunio nid yn unig ar gyfer y profion, ond ar ôl y profion hynny hefyd, oherwydd pan fyddwch chi'n dod o hyd i lawer mwy o bobl sydd wedi profi'n bositif, mae angen timau arnoch chi yn y system Brofi Olrhain ac Amddiffyn, a'u dilyn gan sicrhau eu bod yn cael eu cynghori'n iawn."

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae angen i hynny i gyd fod ar waith er mwyn sicrhau bod pobl ym Merthyr, os mai dyna lle mae gennym ni brawf tref gyfan gyntaf yng Nghymru, eu bod yn cael y gwasanaeth sydd eu hangen arnyn nhw, a dyna beth mae'r cynllunio hwnnw wedi'i greu i'w gyflawni."