'Gwyrth' bod teulu wedi goroesi ffrwydrad Blaendulais
- Cyhoeddwyd

Dioddefodd Jessica Williams anafiadau difrifol yn dilyn ffrwydrad yn ei thŷ
Mae mam wedi sôn am y foment frawychus sylweddolodd ei bod hi'n sownd yn ei thŷ ar ôl ffrwydrad.
Roedd Jessica Williams a'i meibion dau a phump oed yn eu cartref ym Mlaendulais, Castell-nedd Port Talbot pan gwympodd y tŷ ar 24 Mehefin.
Dioddefodd Reuben, pump, ac Elliott, dau, losgiadau i 28% o'u cyrff, tra bu'n rhaid i'w mam gael ei rhoi mewn coma am fis.
"Pan ry'ch chi'n edrych ar y stad roedd y tŷ mewn, i feddwl bo' ni gyd wedi goroesi, mae'n wyrth. Fi'n ddiolchgar ein bod ni gyd dal yma," meddai Jessica.
Ar ôl 14 wythnos yn Ysbyty Treforys, mae Jessica - sy'n cael ei hadnabod fel Jess - yn ôl gyda'i theulu, ac mae hi'n benderfynol o barhau i wella, a dychwelyd i dŷ'r teulu rhyw ddydd.
Yn ôl Heddlu De Cymru, yr eglurhad mwyaf tebygol am y ffrwydrad oedd cyfuniad o gyfarpar nwy LPG oedd wedi mynd yn hen a thywydd poeth.
Mae Jessica'n cofio popeth am y ffrwydrad. Roedd hi wedi bod yn mwynhau'r haul gyda'i phlant ar y diwrnod hwnnw.
"Cawson ni fore hyfryd, roedden nhw'n cael gymaint o hwyl."
Doedd dim byd i awgrymu bod unrhyw beth o'i le yn y tŷ, tan iddi agor y drws i'r cartref, ac roedd gwynt nwy yn "llethol".
"Nes i banicio 'chydig, felly nes i ddweud wrthyn nhw i eistedd ar y soffa a pheidio symud," meddai.
"Fi mor falch nes i hwnna. Es i i'r ffwrn, a sai'n cofio os oedd e ar dan neu beidio, ond es i i droi'r deial... a ffrwydrodd e'n syth.
"Digwyddodd e'n syth bin, doedd dim amser i wneud unrhyw beth yn wahanol. Unwaith i fi droi e 'naeth e ffrwydro a thaflu fi i'r llawr yn syth."

Cafodd tŷ Jessica ynghyd a'r ddau dŷ drws nesaf eu difrodi
Wrth iddi fod yn sownd o dan oergell steil Americanaidd roedd Jessica'n gallu clywed ei phlant yn sgrechian, ond doedd hi ddim yn gallu symud.
"Roedd clywed y bechgyn yn sgrechian yn dorcalonnus, achos do'n i methu cael ata' nhw."
"Rhedodd llwyth o ddynion mewn i'r tŷ, o'n i jyst yn sgrechian, o'n i'n meddwl, 'dyna fe, fi'n mynd i farw fan hyn'."

Roedd y bechgyn yn eistedd ar y soffa pan ddigwyddodd y ffrwydrad
Rhywsut neu'i gilydd, er gwaethaf y ffaith bod y rhan fwyaf o'i chorff wedi'i llosgi, llwyddodd Jessica i dynnu ei hun o'r rwbel.
"Cyn belled a oedd pawb, a fi'n ymwybodol, dim ond y llosgiadau ar fy nghroen oedd gen i, achos fi'n credu o'n i'n gwaedu ac oedd darnau o groen yn hongian... ond do'n i ddim yn gwybod bod unrhyw beth yn bod tu mewn fy nghorff."
Cafodd ei chludo i Ysbyty Treforys i gael triniaeth yn yr uned llosgiadau arbenigol, tra bod ei phlant yn cael eu cludo i Ysbyty Southmead ym Mryste.
Dirywiodd ei chyflwr mor gyflym bu'n rhaid iddi gael ei rhoi mewn coma pan gyrhaeddodd hi'r ysbyty.
Yn ogystal â'r llosgiadau o'r ffrwydrad, roedd hi wedi torri'i hasennau, roedd twll yn ei ysgyfaint ac roedd ei harennau'n methu.
Pan ddeffrodd Jessica, doedd hi ddim yn ymwybodol o'r dinistr yn ei thŷ tan iddi weld lluniau.
"O'n i'n drist iawn. Doedd e ddim yn beth o'n i'n disgwyl o gwbl. Tŷ fi yw e, chi' mod?
"I feddwl bod fy nhŷ i'n rwbel i gyd, roedd e'n dorcalonnus gweld."

Cafodd y tŷ ei ddinistrio'n llwyr yn y ffrwydrad
Ers y ffrwydrad mae'r gymuned wedi ceisio helpu ailadeiladu'r tŷ, oedd ddim o dan yswiriant.
Cliriodd un cwmni y rwbel am ddim i helpu'r teulu.
Dywedodd Jessica bod y gweithwyr wedi arbed teganau a lluniau o'r dinistr, a doedd hi ddim yn gallu diolch digon i'r gymuned.
Dysgu sut i fwyta eto
Ar ôl 14 wythnos yn yr ysbyty, aeth Jessica adref gyda'i dyweddi a'i phlant ym mis Hydref, ond gyda'u tŷ dal yn deilchion maen nhw'n byw mewn tŷ perthnasau.
Er ei bod hi'n gwella mae Jessica'n wynebu heriau difrifol.
"Dwi wedi gorfod dysgu i gerdded eto, symud fy mreichiau, popeth really."
Yn yr ysbyty, perfformiodd meddygon traciostomi, lle mae agoriad bach yn cael ei wneud yn y gwddf i adael aer mewn i'r ysgyfaint.
Roedd yn rhaid i Jessica ddysgu sut i lyncu, bwyta a siarad eto. Roedd ei chlyw hefyd wedi ei effeithio'n ddifrifol ar ôl y ffrwydrad, ac efallai ni fydd yn dychwelyd yn gyfan gwbl.

Dydy Jessica methu defnyddio'i llaw dde o ganlyniad i'r llosgiadau
Ar ben yr heriau corfforol, mae Jessica wedi gorfod dod i dermau gyda'r newid yn ei hedrychiad hefyd.
"Mae wir yn anodd.
"Os fyddai rhywun 'di dweud wrtha i'r flwyddyn diwethaf, 'ti'n mynd i gael llwyth o losgiadau' bysen ni 'di bod yn really drist, ac roedd gweld nhw i gyd am y tro cyntaf yn yr ysbyty wir yn anodd.
"Ond fi wir yn falch i fod yma.
"Mae mynd i gymryd amser i ddod i dermau gyda phopeth, ac mae ein bywydau wedi newid yn gyfan gwbl," dywedodd.
"Ond dwi'n bositif bod ni'n gallu cael 'nôl i le hapus a symud ymlaen ac edrych i'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020