Casgliad wedi i ffrwydrad chwalu tŷ heb yswiriant

  • Cyhoeddwyd
BlaendulaisFfynhonnell y llun, Kirsten Williams

Mae cymdogion yn ceisio casglu £50,000 er mwyn ailadeiladu tŷ teulu gafodd ei ddinistrio mewn ffrwydrad yn ddiweddar, gan nad oedd yr eiddo wedi ei yswirio.

Cafodd Jess Williams, 31, a'i meibion dyflwydd a phump oed eu hanafu yn y ffrwydrad ym Mlaendulais, yn ardal Castell-nedd Port Talbot ar 24 Mehefin.

Mae Ms Williams yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ac mae'r bechgyn yn gwella gyda'u teulu.

Aeth hyd at 18 o gymdogion i dynnu'r tri o weddillion y tŷ yn dilyn y ffrwydrad.

Dywedodd Heddlu De Cymru mae'r rheswm mwyaf tebygol am y ffrwydrad oedd cyfarpar nwy LPG ac amgylchiadau amgylcheddol.

BlaendulaisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd eiddo a cherbydau eu difrodi yn y digwyddiad

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Hunt o Gyngor Castell-nedd Port Talbot: "Fe sylweddolais fod y tŷ heb yswiriant. Yna fe wnes i sylweddoli fod dau o'r tri thŷ oedd wedi eu heffeithio gan y ffrwydrad heb yswiriant."

Hyd yma mae bron i £22,000 wedi ei godi'n lleol.

Dywed Mr Hunt fod adeiladwyr hefyd wedi cynnig cwblhau'r gwaith adeiladau am ddim.

"Mae'r teulu'n teimlo cymaint o loes am yr hyn ddigwyddodd ond hefyd yn wylaidd iawn am yr holl gefnogaeth maen nhw wedi ei dderbyn.

"Nid ydynt yn gallu dod i dermau gyda'r gefnogaeth a'r caredigrwydd sydd wedi ei ddangos ar draws yr holl wlad. Fe ddaeth cefnogaeth mor bell a Leeds. Maen nhw'n hynod o ddiolchgar."

BlaendulaisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tŷ ei ddinistrio'n llwyr yn y ffrwydrad