Arddangosfa i ddatgloi mwy o hanes Ystrad Fflur
- Cyhoeddwyd
Tra roedd Cymru gyfan yn byw o dan amodau'r cyfnod clo byr diweddar roedd y gwaith o ddatgloi mwy o hanes safle Ystrad Fflur yng Ngheredigion yn parhau.
Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn bwriadu agor arddangosfa newydd ar ôl derbyn bron i £180,000 i adfer adeiladau'r fferm sydd wrth ymyl safle'r Abaty Sistersaidd o'r 13eg ganrif.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn berchen ar fferm Mynachlog Fawr a adeiladwyd yn yr 17eg ganrif gan ddefnyddio carreg o'r hen abaty.
Bydd y grantiau y mae'r Ymddiriedolaeth wedi'u derbyn yn ariannu'r broses adnewyddu'r tŷ pair o'r 18fed ganrif sydd wedi'i restru Gradd 2 a'r sied drol gyfagos.
Fe fyddan nhw yn gartref newydd ar gyfer Arddangosfa Mynachlog Fawr.
Y nod yw ei hagor ym mis Mai 2021 i adrodd stori'r fferm trwy 30 o wrthrychau - eitemau a dogfennau o'r ffermdy a'r adeiladau allanol.
Dywedodd Andrew Green, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur: "Roedd hwn yn lle pwysig yn y canol oesoedd.
"Roedd gan Ystrad Fflur ystâd enfawr ac roedd llawer o weithgareddau yma.
"Rydyn ni am ddod â bywyd, bywyd newydd yn ôl i Ystrad Fflur a dod â mwy o bobl yn ôl, a llawer, llawer mwy o weithgareddau.
"Rydyn ni'n cynnal ysgol haf archeoleg ac rydyn ni'n gobeithio parhau â hynny, ond hefyd ychwanegu llawer mwy o gyrsiau a llawer mwy o weithgareddau.
"Dim ond un rhan o'r hanes yw'r Abaty - mae'r stori yn mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanes oherwydd roedd hwn yn safle cysegredig ymhell cyn i'r Abaty gyrraedd.
"Ac mae'r stori'n parhau ar ôl yr Abaty gyda'r fferm, a llawer o bethau eraill.
"Felly mae'n stori hir, ac ry'n ni yn rhan o'r stori hir, hir honno."
30 gwrthrych
Mae'r prosiect wedi derbyn £92,400 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, £80,000 gan Gronfa Henebion y Byd a £6,000 gan y Prosiect Tirweddau Cysegredig a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Roedd y tŷ pair yn adeilad gafodd ei ddefnyddio i olchi a sychu dillad, gwneud bara a pharatoi bwyd i'r anifeiliaid - yng nghanol yr ystafell mae tân canoloesol enfawr.
Adeiladwyd y tŷ pair ar weddillion yr abaty ac mae cerrig y sylfeini i'w gweld yn glir o'i chwmpas.
Dyw'r 30 gwrthrych a fydd yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa ddim wedi'u dewis eto, ond mae rhai ohonynt wedi cael eu datgelu gan y gwaith adnewyddu diweddar.
Adeiladwyd y tŷ pair ar weddillion yr abaty ac mae cerrig y sylfeini i'w gweld yn glir o'i chwmpas.
Dyw'r 30 gwrthrych a fydd yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa ddim wedi'u dewis eto, ond mae rhai ohonynt wedi cael eu datgelu gan y gwaith adnewyddu diweddar
Daeth y contractwr o hyd i wy seramig wedi'i osod yn ofalus ger y simnai yn ogystal â thair esgid a gladdwyd mewn wal.
Dywedodd Lowri Goss, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur: "Nid ydym yn hollol siŵr pam y cafodd yr eitemau eu rhoi yno ond credwn ei fod i gadw ysbrydion drwg i ffwrdd.
"Rhoddwyd yr wy mewn i'r wal, adeiladwyd o'i gwmpas yn ddiogel.
"Rydyn ni wedi gwneud ychydig o ymchwil ac nid ydym wedi dod o hyd i wy wedi'i guddio yn y ffordd yma o'r blaen, felly mae'n eithaf unigryw o'r hyn y gallwn ei gasglu. "
Mae Ystrad Fflur yn agos i bentref Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.
Yn ei anterth yn y 12fed a'r 13eg ganrif roedd yr abaty Sistersaidd - a ystyriwyd gan lawer fel Abaty Westminster Cymru - yn ganolfan bwysig ar gyfer diwylliant, crefydd a masnach.
Dyma ble gafodd 'Brut y Tywysogion' ei hysgrifennu - un o'r ffynonellau pwysicaf ar gyfer hanes cynnar Cymru.
Hefyd cafodd y bardd Dafydd Ap Gwilym ei gladdu yn y fynwent yna.
Ond ar ôl 1539 pan orchmynnodd Harri VIII ddiddymu'r mynachlogydd fe syrthiodd Ystrad Fflur yn adfail.
'Addysgu cenhedlaeth newydd'
Adeiladwyd ffermdy Mynachlog Fawr rhwng 1670-80.
Yn waliau'r tŷ a'r adeiladau allanol gallwch weld y garreg lliw golau a gymerwyd o adfeilion yr abaty.
Cafodd Charles Arch ei eni a'i fagu ar y fferm. Mae'n falch o weld adeiladau ei gyn-gartref yn cael eu gwarchod a'u hailagor i addysgu cenhedlaeth newydd.
"Rwy'n credu nad yw llawer o bobl heddiw yn ymwybodol o beth oedd pwrpas llawer o'r adeiladau hyn.
"Rwyf eisoes yn bell i mewn i'm 80au, ond rwy'n gobeithio yn erbyn gobaith y byddaf yn goroesi i weld yr hen dŷ yn cael ei adnewyddu hefyd.
"Byddwn i wrth fy modd yn gweld y tŷ gyda'r math o waith sydd wedi bod yn digwydd yn yr adeiladau eraill, oherwydd mae'n rhywbeth rwy'n meddwl y byddai llawer o bobl yn dod yma ac yn ei edmygu. "