Ateb y Galw: Y cerddor a'r bardd Geraint Løvgreen
- Cyhoeddwyd
Y cerddor a'r bardd Geraint Løvgreen sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Huw Jones yr wythnos diwethaf.
Mae Geraint Løvgreen a'r Enw Da wedi bod yn ein diddanu ers yr 1980au. Geraint yw cyfansoddwr rhai o'n hoff ganeuon, fel Yma Wyf Innau i Fod, Dwi'm Isho Mynd i Sir Fôn, a Nid Llwynog Oedd yr Haul, a gyd-ysgifennodd gyda'r bardd Myrddin ap Dafydd - hon oedd Cân i Gymru 1982.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio crïo isio mynd i'r ysgol efo Rhiain fy chwaer fawr. Ges i fynd o'r diwedd yn dair oed, a phenderfynu ar ôl y diwrnod cyntaf bod hynny yn hen ddigon ac nad oeddwn i am fynd eto.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
O'n i'n ffansïo Meinir Jones oedd yn yr un dosbarth â fi yn yr ysgol gynradd. Wrth gwrs wnes i ddim magu digon o blwc i ofyn iddi ddawnsio yn y disgo Nadolig. O'n i yn swil iawn. Y gantores Julie Driscoll oedd y crysh nesa.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mae unrhyw ffilm emosiynol yn siŵr o ddod â deigryn i'm llygad. Dwi'm hyd yn oed yn cofio be' oedd y dwytha ond dio ddim yn hir yn ôl! Digon posib mai Toy Story 4 oedd o.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi'n meddwl ma' raid 'mod i wedi blocio'r peth allan o fy meddwl, oedd o'n gymaint o gywilydd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi o hyd yn gohirio gwneud unrhyw beth tan y munud ola', a gwastraffu amser ar fy ffôn pan mae gen i bethau i wneud.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Does yna ddim 'e' ar ôl y 'v' yn Løvgreen.
O archif Ateb y Galw:
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Parti priodas Eleri a fi, 43 o flynyddoedd yn ôl erbyn hyn! Uchafbwyntiau'r noson: prifardd yn torri ei asen wrth i barti cydadrodd fynd dros ben llestri; set drydanol gan y Trwynau Coch (oedd yn lwcus i gael byw i ddweud yr hanes, ond stori arall ydi honno). A dynes y gwesty'n meddwl ein bod ni'n dau'n swil achos mai ni oedd y ddau olaf wrth y bar yn yr oriau mân.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hen ddyn ifanc.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Y lle dwytha imi fod ar wyliau oedd Llangollen, a gawson ni amser difyr iawn. 'Llan' oedd cartref Mam hefyd, felly mae hwnne'n rheswm da arall dros ddewis y lle, er does gen i ddim teulu yn y dre erbyn hyn.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae'n amrywio o ddydd i ddydd. Ond mae Iwan Llwyd wedi'n gadael ni ers deng mlynedd eleni, a dwi'n hoff iawn o'i gân Y Weddi. Cywaith rhwng Iwan a T H Parry-Williams ydi hi, mewn gwirionedd. Mae yna rywbeth hudolus amdani.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Fysa noson ar y Guinness mewn bar diarffordd yng nghanol Iwerddon efo piano, yng nghwmni Tom Waits (fyddai'n gorfod dod oddi ar y wagen am noson), David Bowie a Paul McCartney yn eitha difyr - na, yn hollol mindblowing.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Canslo'r dyn llefrith a mynd am beint gan anwybyddu rheolau Cofid.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Y llyfr dwi wedi ei ailddarllen lawer gwaith ydi Catch-22 gan Joseph Heller. Hurt, absẃrd ac erchyll, disgrifiad perffaith o ryfel. Ond darnau doniol iawn.
Mae Y Fro Dywyll gan Jerry Hunter yn wahanol iawn ond hefyd yn gampwaith o nofel, eto'n darlunio gwastraff disynnwyr rhyfel a thrasiedi y natur ddynol. Y peth pwysica ydi, mae'r ddwy gyfrol yn ddwy chwip o stori.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fysa'n cŵl iawn bod yn Gareth Bale. Yn wahanol i 'mrawd, oedd gen i byth lawer o allu pêl-droediol, yn anffodus.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Pâté macrell neu ryw bysgod i ddechrau, wedyn stêc cig eidion Cymru efo sglodion, pys, nionod a madarch. Fyswn i'm yn ffysd am bwdin wedyn, mond sgwaryn o siocled Lindt 70% efo fy ngwin coch.
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Richard 'Fflach' Jones