Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Iwerddon 32-9 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y Cymry, Ryan Elias a Shane Lewis-Hughes yn taclo Chris FarrellFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymry, Ryan Elias a Shane Lewis-Hughes yn taclo Chris Farrell

Iwerddon oedd yn fuddugol nos Wener wedi iddyn nhw drechu Cymru yn Nulyn yng ngêm gyntaf y gystadleuaeth newydd - Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Roedd y Gwyddelod yn rheoli o'r dechrau ac o fewn chwarter awr roedd cic gosb Johnny Sexton yn llwyddiannus. Deg munud yn hwyrach roedd yna gais i'r tîm cartref gan Quinn Roux ac wedi i gic gosb arall a throsgais gan Sexton lwyddo, roedd y Gwyddelod wedi sgorio 13.

Ond roedd dwy gic gosb y Cymry hefyd wedi llwyddo drwy gicio celfydd Leigh Halfpenny gan ddod â'r sgôr i 13-6 wedi hanner awr o chwarae.

Roedd yna newyddion drwg i'r Gwyddelod yn yr hanner cyntaf wedi i Sexton anafu ei linyn y gar a bu'n rhaid iddo adael y cae.

Bill Burns a ddaeth yn lle Sexton ac o fewn dim roedd e wedi sgorio tri phwynt - ei bwyntiau rhyngwladol cyntaf i Iwerddon a'r sgôr ar yr hanner oedd Iwerddon 16-6 Cymru.

Ffynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Cian Healy yn cael ei daclo gan Taulupe Faletau a Gareth Davies

Roedd Cymru yn chwarae yn well yn yr ail hanner a Leigh Halfpenny a sgoriodd gyntaf wedi i Hugo Keenan gael ei gosbi am ddal y bêl yn rhy hir.

Ymhen rhai munudau tri phwynt arall i Burns a chyn diwedd y gêm chwe phwynt arall i'r Gwyddelod - y tro hwn drwy gicio Conor Murray gan fod Burns wedi ei anafu.

Wedi i Jonathan Davies gael anaf, daeth George North i'r cae gan sicrhau ei ganfed cap.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Deg mlynedd yn union yn ôl y chwaraeodd George North gyntaf - mae e wedi chwarae 97 gwaith i Gymru a thair gwaith i'r Llewod

Er i Gymru chwarae'n agos i'w llinell gais ar ddiwedd y gêm - doedd dim mwy o bwyntiau i'r crysau cochion ond roedd yna gais arall i'r Gwyddelod wrth i James Lowe groesi funudau cyn diwedd y gêm.

Y sgôr terfynol Iwerddon 32-9 Cymru.

Wythnos gythryblus

Mae wyth tîm yn rhan o'r gystadleuaeth - pedwar yng Ngrŵp A sef Lloegr, Iwerddon, Cymru a Georgia a'r gweddill sef Ffrainc, Yr Alban, Yr Eidal a Fiji yng Ngrŵp B.

Bydd Cymru yn wynebu Georgia nesaf ar 21 Tachwedd a Lloegr wythnos yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Byron Hayward yn un o hyfforddwyr y Scarlets gyda Wayne Pivac cyn ymuno â thîm rheoli Cymru

Ddechrau'r wythnos fe wnaeth hyfforddwr amddiffyn rygbi Cymru, Byron Hayward, adael ei rôl ar unwaith.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru fe wnaeth Hayward adael trwy gytundeb.

Cyn heno, roedd Cymru wedi colli eu pum gêm ddiwethaf, gan gynnwys eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe gwlad yn erbyn Yr Alban ddiwedd mis Hydref.