Creu cangen o Ysgol Ffilm a Theledu yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Canolfan
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan ddarlledu BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd

Mae'r Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol heddiw wedi cyhoeddi eu bod am sefydlu cangen genedlaethol newydd yng Nghymru mewn partneriaeth gyda BBC Cymru a Chymru Greadigol.

Yn dilyn creu canolfannau yn Glasgow a Leeds yn ogystal â'r prif safle yn Beaconsfield, fe fydd yr Ysgol yn sefydlu canolfan newydd yng nghanolfan ddarlledu BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.

Bydd NFTS Cymru yn weithredol o fis Ebrill 2021 gyda'r myfyrwyr cyntaf yn cychwyn ym mis Medi 2021.

Bydd agor y ganolfan newydd yng Nghaerdydd yn creu tair swydd newydd a'r gobaith yw y byddant yn gweithio gydag oddeutu 400 o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Canolbwynt y gweithgaredd yng Nghaerdydd fydd cefnogi graddedigion diweddar a'u dysgu i astudio ar gyfer cymwyster ôl-radd neu drosglwyddo i swydd o fewn y diwydiannau creadigol.

Gyda chefnogaeth ariannol gan Gymru Greadigol, bydd y ganolfan hyfforddi hefyd yn cefnogi talent newydd yn ogystal â datblygu sgiliau.

Mewn datblygiad arall, mae BBC Three yn partneru gyda BBC Cymru a Chymru Greadigol er mwyn darganfod rhaglenni teledu newydd ac arloesol.

Fe fydd y bartneriaeth yn gwahodd cwmnïau cynhyrchu annibynnol wedi eu lleoli yng Nghymru i gynnig syniadau am raglenni sy'n adlewyrchu profiadau bywyd pobl rhwng 16 a 24 mlwydd oed.

Adlewyrchu profiadau pobl ifanc

Bwriad y bartneriaeth yw datblygu cwmnïau wedi eu lleoli yng Nghymru, cryfhau'r cyflenwad o raglenni gan gynhyrchwyr Cymreig i'r BBC ac adlewyrchu profiadau go-iawn pobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru medd y rhai tu ôl i'r cynllun.

Wrth groesawu'r cyhoeddiadau, dywedodd Cyfarwyddwr-Cyffredinol y BBC, Tim Davie: "Mae Canolfan Ddarlledu'r Sgwâr Canolog - yng nghanol dinas Caerdydd - yn amlwg yn ychwanegiad arbennig i'r sector ddarlledu yng Nghymru. Dwi wrth fy modd ei fod bellach yn gartref i'r Ysgol Ffilm a Theledu.

"Mae'n le gwych i wneud busnes. Mae'r bartneriaeth ddiweddara' efo BBC Three - sy'n dilyn rhai gafodd eu cyhoeddi yn yr Alban a Gogledd Iwerddon - yn taflu'r drysau'n agored i gynhyrchwyr teledu yng Nghymru i ddod â syniadau newydd, arloesol ger bron gyda phortread o Gymru yn ganolog."

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad wrth sefydlu sefydlu'r Ysgol yng Nghaerdydd ydy cefnogi twf cynyrchiadau ffilm a theledu y tu hwnt i Lundain

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: "Mae'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf, ond rydym yn ymwybodol o'r effaith mae'r pandemig yn ei gael ar y sector. Rwy'n falch iawn felly i groesawu'r Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol i Gymru - ysgol sydd ag enw da dros y byd - a bydd eu hyfforddiant penigamp o gymorth wrth dyfu'r gweithlu yma.

"Mae hwn yn eistedd ochr yn ochr gyda phartneriaeth arall drwy Cymru Greadigol gyda BBC Three a BBC Cymru, fydd yn rhoi hwb i gynnwys wedi ei greu yng Nghymru i'n pobl ifanc. Law yn llaw bydd y datblygiadau newydd yma yn cryfhau'r diwydiant, datblygu talent a darparu cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr, cwmnïau a gweithlu Cymreig."

Dywed Jon Wardle, Cyfarwyddwr yr Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol: "Rydym wrth ein boddau o gael cyhoeddi ein bod yn ehangu i Gymru. Mae llwyddiant ein canolfannau eraill yn yr Alban ac yn Leeds wedi dangos yn glir fod galw am hyfforddiant arbenigol yng nghenhedloedd y DU.

"Mae'r diwydiannau creadigol ar draws Cymru yn ffynnu ac mae'n rhan o'n strategaeth ni fel Ysgol i gefnogi twf cynyrchiadau ffilm a theledu y tu hwnt i Lundain. Fe fyddwn yn gweithio'n galed i ddod o hyd i dalent Cymreig er mwyn ei ddatblygu a darparu llwybr clir i mewn i swyddi a'r diwydiant i fyfyrwyr."