Trafod deiseb i atal newid enwau tai Cymraeg i'r Saesneg

  • Cyhoeddwyd
Llan Tropez
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd un eiddo ym Mae Trearddur ar Ynys Môn ei ail-enwi'n Llan Tropez

Bydd deiseb yn cael ei drafod gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd ddydd Mawrth sy'n galw am ei gwneud yn anghyfreithlon i newid enwau tai o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Mae dros 18,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb, a gobaith y trefnydd ydy y bydd y mater yn mynd o flaen aelodau'r senedd gyfan i gael penderfyniad a deddfu ar y mater.

Dywedodd trefnydd y ddeiseb, Robin Aled Davies o Lanbedr Dyffryn Clwyd: "Dwi'n gobeithio ceith o ei basio ymlaen fel bod o'n mynd o flaen pleidlais gan y Senedd.

"Wedyn dod yn ddeddf gwlad na chaiff pobl newid enwau tai heb fod o'n mynd o flaen pwyllgorau lleol, a bydd hynny'n rhoi diwedd i'r enwau gwirion yma 'da ni'n weld ar gartrefi a bythynnod ar hyd a lled Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Robin Aled Davies ydy "rhoi diwedd i'r enwau gwirion" ar gartrefi

Mae'r mater o newid enwau tai o'r Gymraeg i'r Saesneg wedi dod yn bwnc trafod llosg dros y misoedd diwethaf, a bu trafodaeth ar y mater yn ddiweddar yng nghyfarfod Cyngor Tref Porthmadog.

Dywedodd y cadeirydd, Gwilym Jones: "Y pryder ydy bod yr enwau'r tai 'ma yn cael eu newid.

"Mae pawb yn gwybod am y busnes lle mae mwy o dai yng Nghymru yn mynd yn eiddo i bobl ddi-Gymraeg, a fedra i ddim ond gweld tyfiant mewn newid enwau tai oherwydd hynny.

"Mae o bwys - unwaith mae'r enwau tai 'ma wedi mynd, maen nhw wedi mynd am byth.

"Mae rhai o'r enwau 'ma yn hanesyddol ac yn bethau sy'n ein gwneud ni'n Gymry."

Disgrifiad o’r llun,

"Unwaith mae'r enwau tai 'ma wedi mynd, maen nhw wedi mynd am byth," meddai Gwilym Jones

Mae'r cynghorydd Jason Humphreys, sy'n cynrychioli'r Blaid Genedlaethol ar Gyngor Tref Porthmadog, hefyd yn poeni am y sefyllfa.

"Be sy'n digwydd - cam bach fesul cam bach - mae ein bröydd Cymraeg dros Gymru i gyd yn cael eu Seisnigo, a 'dyn ni'n colli'n iaith a'n treftadaeth," meddai.

Bydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn trafod y ddeiseb - sydd am weld deddfwriaeth sydd yn gwarchod enwau tai cynhenid - ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n parhau i gasglu gwybodaeth i weld pa gamau sydd angen eu cymryd, allai gynnwys deddfu os yn angenrheidiol.