Y gwaith o atgyweirio pier hynafol Bae Colwyn yn dechrau
- Cyhoeddwyd
Wedi blynyddoedd o ddadlau a phendroni mae'r gwaith o ail godi un o bierau hynaf Cymru wedi dechrau.
Ers rhai wythnosau mae swyddogion wedi bod wrthi yn gosod sylfeini newydd i bier Bae Colwyn gyda'r gobaith hir dymor o greu canolfan a hwb i'r gymuned leol.
Mae'r pier wedi bod yn destun pryder ers sawl blwyddyn ac yn 2017 fe ddisgynnodd rhai o'r sylfeini a'r pren i'r môr mewn storm.
Yn ôl ymgyrchwyr, mae'n rhaid i'r pier newydd "fod yn rhywbeth i bawb" ei ddefnyddio.
Dywed Ymddiriedolaeth Pier Bae Colwyn y gallai pier newydd sbon, dan eu rhagolygon nhw, greu hyd at 40 o swyddi a denu 100,000 yn fwy o ymwelwyr.
Mae gan bier Bae Colwyn hanes go fratiog.
Ers ei godi yn y flwyddyn 1900 mae 'na ddau dân wedi bod gan arwain at ail godi'r strwythur ddwywaith.
Er unwaith yn bot mêl i bobl ifanc lleol, mae'r pier wedi wynebu heriau sylweddol ers diwedd yr 1980au.
Er sawl ymgais i ail godi'r safle fe ddisgynnodd rhannau i'r môr yn 2017 gan orfodi'r cyngor i gamu mewn a dymchwel y strwythur.
Yn ôl ymgyrchwyr, y gobaith rŵan ydy datblygu'r sylfeini diweddaraf a chreu hwb i'r ardal.
"'Da ni wedi bod yn gweithio at hyn ers dros 10 mlynedd," meddai Pat Owen, is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Pier Bae Colwyn.
"Mae'n codi calon rhywun a bod ni'n cael cefnogaeth y tîm dros y blynyddoedd a phobl yn y dre.
"'Da ni eisiau rhywbeth mae pawb yn gallu defnyddio. O blant bach ifanc i hen bobl sy'n cofio fo pan oeddan nhw'n ifanc. 'Da ni eisiau pier i bawb!"
Bwriad y grŵp rŵan ydy gwneud rhagor o geisiadau am fuddsoddiad er mwyn bwrw 'mlaen â'u cynlluniau fydd â ffocws penodol ar "addysg, treftadaeth, diwylliant a'r iaith Gymraeg".
Bydd y pier newydd hefyd yn defnyddio rhannau o'r un gwreiddiol sydd wedi eu hadnewyddu fel bariau a pholion.
Yn ôl Cyngor Conwy mi fydd y datblygiadau diweddara "o les i'r gymuned".
"Dwi'n falch iawn, mae hi 'di bod yn siwrne hir iawn ond mae'r gwaith yn dirwyn i ben rŵan," meddai deilydd portffolio Cyllid Cyngor Conwy, Goronwy Edwards.
"Mae 'na lot o fuddsoddiad wedi bod dros y blynyddoedd i'r pier.
"Pan oedd y pier yn fethiant a doedd 'na'm modd cynnal a chadw roedd yn rhaid i'r cyngor gamu mewn ac edrych ar y dyfodol.
"Yn anffodus doeddan ni'n methu achub y pier ond mi fydd' na ddarpariaeth rŵan fydd o les i'r gymuned."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017