Gwyddonwyr Aber yn datgloi DNA planhigyn o bwys

  • Cyhoeddwyd
miscanthusFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi helpu i ddatgloi DNA planhigyn fydd yn chwarae rôl allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Roedd gwyddonwyr IBERS (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) yn rhan o dîm byd-eang sydd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar miscanthus - glaswellt y gellir ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol, o fod yn danwydd biomas i ddeunydd crai mewn gwahanol fathau o gynnyrch.

Mae'r gwyddonwyr wedi dilyniannu genom y miscanthus ac mae datgloi genom y planhigyn yn golygu y gellir datblygu mathau newydd yn gyflymach.

Fe allai hyn ei wneud yn fwy addas ar gyfer gwahanol hinsoddau a gwahanol ddefnyddiau terfynol, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a llai o ddibyniaeth ar danwydd ffosil.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl defnydd posib i'r planhigyn, medd yr Athro Iain Donnison

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, pennaeth IBERS, fod miscanthus yn gnwd amryddawn iawn.

"Fe allwn ni ddisodli olew, gan ddefnyddio miscanthus yn y gwahanol ffyrdd rydyn ni'n gwneud nawr.

"Gallwn drosi'r ffibrau'n nwyddau yn y maes cynhyrchu - er enghraifft, gallai'r rhain fod yn baneli mewnol mewn ceir.

"Gallwn ei ddefnyddio i inswleiddio adeiladau, neu i wneud potiau neu blatiau tebyg i fwrdd ffibr, neu gallwn ddadelfennu'r planhigyn i ynysu'r siwgr ac yna eplesu'r rheini i wneud cemegolion platfform, ar gyfer gwneud pethau fel plastigau ry'n ni'n cael o olew ar hyn o bryd."

Glaswellt sy'n tyfu bob blwyddyn yw miscanthus, sy'n gallu cyrraedd uchder o dri metr.

Mae'n gynhenid i dde ddwyrain Asia, ond mae hefyd i'w gael mewn llawer o wahanol hinsoddau ledled y byd.

Mae'n tyfu'n dda ar lefel y môr mewn caeau ger campws Prifysgol Aberystwyth ac ar dir fferm y brifysgol yn y bryniau, ar uchder o tua 1,000 troedfedd.

Ar hyn o bryd dim ond un math hybrid o miscanthus sy'n cael ei dyfu ac yn y Deyrnas Unedig mae'n cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer llosgi i gynhyrchu trydan carbon isel.

Ond mae'n blanhigyn amlbwrpas a allai ddisodli tanwydd ffosil mewn llawer o ffyrdd eraill, gan gynnwys inswleiddio cartrefi ac wrth gynhyrchu cerbydau.

Roedd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o dîm byd-eang a oedd yn gweithio ar ddilyniannu genom y planhigyn.

Bu gwyddonwyr o Iwerddon, UDA, Japan, China a Corea yn gweithio ar y prosiect hefyd.

Mae genom miscanthus yn fawr ac yn gymhleth, ond ar ôl blynyddoedd o waith fe lwyddon nhw i ddilyniannu'r genom am y tro cyntaf yn y byd.

Cafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi yng nghylchgrawn Nature Communications.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd y gwaith ymchwil amser maith, medd Dr Kerrie Farrar

Un o awduron yr adroddiad yw Dr Kerrie Farrar o Brifysgol Aberystwyth. Dywedodd: "Rydyn ni'n gyffrous iawn i gael genom miscanthus o'r diwedd.

"Mae'n laswellt mawr iawn, ac mae'r genom hefyd yn fawr ac yn gymhleth iawn, felly mae wedi cymryd amser hir i wneud ac roedd yn ymdrech fawr ar y cyd.

"Mae datgloi cyfrinachau'r genom yn golygu ein bod yn gallu cyflymu datblygiad rhywogaethau newydd gyda chynhyrchiant gwell fydd yn cyfrannu at daclo newid hinsawdd.

"Efallai y byddai dathliad mwy wedi bod, oni bai am Covid.

"Fel arfer, ry'n ni i gyd yn dod at ein gilydd ym mis Ionawr mewn cynhadledd fawr yn San Diego, ond fydd hynny ddim yn digwydd, felly yn anffodus dyw'r amseru ar gyfer dathlu ddim yn ddelfrydol, ond ry'n ni i gyd yn hapus beth bynnag."

Targed sero net 2050

Bydd y datblygiad hyn yn chwarae rhan werthfawr wrth helpu llywodraethau Cymru a'r DU i gyrraedd eu targedau newid hinsawdd o allyriadau carbon sero net erbyn 2050.

Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid osgoi allyriadau o gartrefi, trafnidiaeth, ffermio a diwydiant yn llwyr neu - yn yr enghreifftiau anoddaf - eu gwrthbwyso trwy blannu coed neu sugno carbon deuocsid o'r atmosffer.

Mae planhigion - fel miscanthus - yn tynnu CO2 allan o'r atmosffer wrth iddyn nhw dyfu.

Pan gawn nhw eu defnyddio wedyn ar gyfer cynhyrchion fel inswleiddio cartref, mae'r carbon wedi'i gloi.

Ondos cawn nhw eu llosgi ar gyfer cynhyrchu trydan mae angen storio'r carbon trwy broses o'r enw BECS (Bio-ynni gyda Dal a Storio Carbon).

Defnyddio adnoddau naturiol

Dywedodd yr Athro Donnison wrth i olew gael ei ddisodli yn y dyfodol, bydd yn rhaid i fwy o egni ddod o gnydau diwydiannol fel miscanthus, ac felly bydd angen tyfu mwy yn ein tirwedd.

"Os edrychwn ni ar hyn fel mater hir dymor, mae tanwydd ffosil bron wedi bod yn blip yn ein hanes ers y Chwyldro Diwydiannol ymlaen - dim ond yn y cwpl o ganrifoedd diwethaf mae'r tanwyddau ffosil wedi'u defnyddio.

"Nawr mae angen i ni fynd i oes cynaliadwyedd. Ac mewn gwirionedd ry'n ni'n mynd nôl at yr hyn roedden ni'n arfer ei wneud o'r blaen, sef defnyddio adnoddau naturiol.

"Mae 'da ni'r targed o sero net erbyn 2050 ac ry'n ni'n llai na thri degawd i ffwrdd nawr.

"Mae gwir angen i ni yrru ymlaen ac mae dilyniannu'r genom yn rhoi dechreuad gwych i ni ar gyfer gwneud hynny."