Datganoli, hunan-lywodraeth, annibyniaeth: Beth yw'r gwahaniaeth?
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig - a'r gwahaniaethau rhwng ymateb Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig i'r argyfwng - wedi sbarduno trafodaeth am gyfansoddiad y DU - sef y fframwaith wleidyddol a'r rheolau ar gyfer rheoli gwlad.
Ddechrau mis Tachwedd cyhoeddodd y mudiad annibyniaeth YesCymru bod ei aelodaeth wedi pasio 15,000 o bobl. Mae eraill yn dadlau bod y misoedd diwethaf wedi dangos y dylid diddymu datganoli'n gyfan gwbl, ac wrth i 2020 ddirwyn i ben gwnaeth Boris Johnson sylw dadleuol yn ôl adroddiadau taw datganoli oedd camgymeriad mwya'r cyn-Brif Weinidog Tony Blair.
Rydyn ni hefyd wedi clywed rhai gwleidyddion yn dweud mai hunan-lywodraeth yw'r model gorau i Gymru gydag eraill o blaid system ffederal. Ond beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhain i gyd?
Dyma egluro rhai o'r termau a'r syniadau sy'n dechrau cael sylw fel rhan o'r sgwrs am ddyfodol y wlad:
Datganoli
Dyma sydd gyda ni ar hyn o bryd. Mae'r setliad cyfansoddiadol wedi esblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf a'r drefn erbyn hyn yw y gall Senedd Cymru ddeddfu ar unrhyw beth ag eithrio'r rhestr penodol o feysydd sydd wedi eu cadw nôl gan San Steffan. Felly tra bod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am iechyd ac addysg er enghraifft, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau'n gyfrifol am drosedd a chyfiawnder.
Yn ogystal, ar y cyfan, y Trysorlys yn Llundain sy'n dosbarthu'r arian ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru.
Gyda datganoli fel y mae mae'r awdurdod eithaf yn parhau gyda Llywodraeth y DU ac, mewn theori, gallai Deddf Seneddol ddiddymu'r pwerau sydd wedi eu datganoli.
Ar hyd y blynydde mae yna feirniadaeth wedi bod taw dim ond tŷ hanner-ffordd ydy datganoli ac nad oes digon o ryddid - neu atebolrwydd - gan weinidogion yng Nghaerdydd.
Annibyniaeth
Byddai Cymru annibynnol yn llywodraethu ei hun yn llwyr heb unrhyw ymyrraeth - na chefnogaeth - gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae cefnogwyr annibyniaeth yn dweud eu bod nhw wedi cael llond bol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio dylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru.
Ond mae yna gwestiynau lu yn parhau ynghylch sut y byddai Cymru annibynnol yn gweithio, ac os ydy'r cysyniad yma am gael ei drafod o ddifri bydd angen i gefnogwyr annibyniaeth allu cynnig atebion.
Hunan-lywodraeth
Neu home rule - cysyniad sy'n atgyfodi dadleuon am ynys Iwerddon a hawliodd cymaint o sylw David Lloyd George ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Mae'r Aelod o'r Senedd Llafur, Alun Davies, yn un sydd wedi dweud ei fod o blaid hunan-lywodraeth, ond nid annibyniaeth, yn ddiweddar.
Mae'r diffiniad o hunan-lywodraeth yng nghyd-destun y DU heddiw yn amwys ac yn tueddu i ddibynnu ar farn y sawl sy'n ei ddefnyddio. Ond fel rheol gellir dadlau bod hunan-lywodraeth yn golygu datganoli i'r eithaf - devo-max - ble dim ond nifer fechan iawn o feysydd sy'n parhau yn nwylo'r llywodraeth ganolog gyda'r mwyafrif helaeth o gyfrifoldebau wedi eu datganoli.
Ond byddai Cymru â hunan-lywodraeth yn dal i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Ffederaliaeth
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dadlau'r achos dros Deyrnas Unedig ffederal ers blynydde fel ffordd o dacluso'r setliad presennol.
Mewn cyfundrefn ffederal mae'r grym wedi ei rannu rhwng llywodraeth ganolog a llywodraethau rhanbarthol. Pwrpas hyn yw sicrhau nad oes un haen o lywodraeth yn llawer mwy grymus na'r llall a bod mwy o bartneriaeth rhyngddynt.
Yn y Deyrnas Unedig byddai hyn yn golygu datganoli mwy o bwerau i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac - yn ôl pob tebyg - i rannau o Loegr.
Dyma sydd yn yr UDA ac yn yr Almaen.
Roedd Winston Churchill ymhlith y rhai oedd yn rhan o'r drafodaeth am ffederaliaeth yn y DU yn y gorffennol, ac mae arweinydd y Blaid Lafur ganolog, Keir Starmer, wedi dadlau'r achos dros y syniad yn 2020.
Dim datganoli
Dyma oedd ganddon ni cyn y refferendwm dros ddatganoli yn 1997, sef un lywodraeth yn San Steffan i'r DU gyfan. Bryd hynny, adran o'r llywodraeth ganolog, Y Swyddfa Gymreig, oedd yn gweithredu polisi'r llywodraeth yng Nghymru dan arweiniad Ysgrifennydd Cymru, a oedd yn aelod o gabinet Llywodraeth y DU
Yn ôl rhai mae datganoli wedi creu haen gostus, dryslyd a di-angen o fiwrocratiaeth. Mae Mark Reckless, Aelod o'r Senedd ac aelod o blaid Abolish the Assembly wedi cyflwyno'r syniad o gael gwared ar Aelodau'r Senedd a chael un Prif Weinidog etholedig yn eu lle.
Mae'r safbwynt yma'n mynd yn groes i'r achos o blaid datganoli, sef y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn nes at lawr gwlad a taw gwleidyddion yng Nghaerdydd, nid Llundain, ddylai fod yn gwneud penderfyniadau dros Gymru.
Hefyd o ddiddordeb: