Newid iaith ysgol Machynlleth yn 'peryglu colli disgyblion'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro Hyddgen

Mae rhybudd bod Cyngor Powys mewn perygl o golli disgyblion i siroedd eraill os bydd statws ysgol yn newid i Gymraeg yn unig ym Machynlleth.

Mae ymgynghoriad ar fin dechrau ynghylch statws ieithyddol Ysgol Bro Hyddgen, sy'n ysgol ddwyieithog ar hyn o bryd.

Yn ôl y cyngor mae'r niferoedd sy'n mynychu'r ffrwd cyfrwng Saesneg wedi bod yn gostwng ers tro.

Dywedodd yr arweinydd bod angen cynnig addysg o safon uchel yn y ddwy iaith yn y sir.

Ysgol ddwy ffrwd yw Ysgol Bro Hyddgen, sy'n darparu addysg ar gyfer tua 500 o ddisgyblion 4-18 oed.

Cafodd ei sefydlu yn 2014 pan unodd Ysgol Gynradd Machynlleth ac Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi dan yr un pennaeth a'r un corff llywodraethol.

Mae disgwyl i waith ar gampws newydd gwerth £48m i'r ysgol ddechrau'r flwyddyn nesaf, fydd yn cynnwys adnoddau newydd sbon a chanolfan hamdden newydd.

Ond mae ymgynghoriad yn dechrau ym mis Rhagfyr ar newid ei statws ieithyddol i Gymraeg yn unig.

Petai'r newid yn dod i rym, byddai'n cael ei gyflwyno'n raddol, blwyddyn wrth flwyddyn, yn dechrau gyda'r disgyblion sy'n ymuno yn 2022.

'Dewis yn bwysig'

Disgrifiad o’r llun,

Mae dewis i rieni yn bwysig meddai Dai Holt

Mae merch saith oed Dai Holt yn mynychu campws cynradd Ysgol Bro Hyddgen ar hyn o bryd.

Mae'n poeni y bydd rhai rhieni yn gyrru eu plant dros y ffin i Geredigion i gael addysg cyfrwng Saesneg os ddaw'r newid.

"Dwi'n meddwl bod dwyieithrwydd yr ysgol wedi gweithio'n dda. Mae'n bwysig bod gan rieni ddewis, neu bydd rhai yn pleidleisio gyda'u traed ac yn gadael yr ysgol.

"Mae'n rhaid i ni gadw niferoedd yn yr ysgol er mwyn iddi fod yn gynaliadwy - gydag adeilad newydd neu beidio."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd plant yn dysgu'r Saesneg yn naturiol ac felly does dim pryderon, meddai Aeron Pughe

Mae plant o du hwnt i dref Machynlleth yn bwydo'r campws uwchradd, fel plant Aeron Pughe sy'n mynychu Ysgol Gynradd Glantwymyn.

"Mae dau o blant ifanc 'efo fi, pedair a dwy oed, ac mae'r hynaf yn barod yn dod adre gyda 'chydig o Saesneg.

"Maen nhw'n mynd i gael eu Saesneg beth bynnag felly does dim pryder bod y plant yn mynd i fod yn uniaith Gymraeg.

"De ni'n byw yng nghanolbarth Cymru, lle mae'r iaith Gymraeg yn fyw a iach ac maen hollbwysig, os nad hanfodol i'r plant gael ysgol cyfrwng Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruth Hughes yn bendant bod newid statws yr ysgol yn gam i'r cyfeiriad cywir

Yn fam i bedwar o blant, dywedodd Ruth Hughes: "Mae cymaint o bobl yn symud i'r ardal mae'n bwysig bod y Gymraeg yn goroesi.

"Mae'r plant yma'n mynd ymlaen i gael gwaith a swyddi trwy gyfrwng y Gymraeg, ar ôl dechrau dysgu yn yr ysgol yn dair oed ac mae hynny'n anhygoel."

Cydnabod methiannau

Mae ffigyrau Cyngor Powys yn dangos bod nifer y plant sy'n mynychu'r ffrwd Saesneg yn Ysgol Bro Hyddgen wedi bod yn gostwng ers sawl blwyddyn.

Ar y campws cynradd, mae'r ffrwd Saesneg yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau bach iawn, gyda plant mewn nifer o flynyddoedd ysgol gwahanol yn cael eu dysgu ar yr un pryd.

Yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Aled Davies, mae'n "bwysig bod Powys yn darparu addysg o safon" yn Gymraeg a Saesneg.

Fe ddywedodd: "Roedd adroddiad Estyn ar addysg Gymraeg ym Mhowys yn hallt iawn. Dwi ddim yn meddwl bod ni'n llwyddo ar draws y sir i gynnig addysg o safon dda yn y ddwy iaith.

"Mae'n rhaid i ni wella. Mae hwn yn gam cyntaf, wrth edrych ar Ysgol Bro Hyddgen.

"Mae ein swyddogion wedi tynnu adroddiad at ei gilydd ond bydd ymgynghoriad yn digwydd cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud."

Mae disgwyl i Gyngor Powys wneud penderfyniad ar Ysgol Bro Hyddgen erbyn mis Gorffennaf.