Oedi ar adeiladu ysgol Machynlleth wedi cwymp Dawnus

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro Hyddgen
Disgrifiad o’r llun,

Bydd safleoedd cynradd ac uwchradd Ysgol Bro Hyddgen yn cyfuno ar y safle newydd

Mae oedi ar adeiladu ysgol newydd gwerth £23m ym Machynlleth.

Roedd y gwaith o adeiladu'r ysgol 3-18 oed i fod i ddechrau ym mis Ebrill y llynedd, cyn i'r contractwyr - Dawnus - fynd i ddwylo gweinyddwyr.

Mae trigolion y dref yn awyddus i gael sicrwydd gan Gyngor Powys y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen.

Yn ôl yr awdurdod lleol, bydd contractwyr newydd yn cael eu penodi yn y gwanwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elwyn Vaughan y bydd y llywodraethwyr yn "rhoi pwysau ar Gyngor Powys er mwyn sicrhau bod pethau'n symud ymlaen"

Dywedodd Elwyn Vaughan, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen: "Yn syml, mae'r ysgol ar ddau safle ac mae angen adeilad newydd i gynnwys y ddau gampws er mwyn bod yn fwy cost effeithiol ac fel bod yr ysgolion yn gweithio'n fwy hwylus.

"Mae'r adeiladau wedi gweld dyddiau gwell ac mae'n rhaid cael yr adnoddau gorau posib ar gyfer y ganrif yma.

"Ni'n gobeithio parhau i roi pwysau ar Gyngor Powys er mwyn sicrhau bod pethau'n symud ymlaen cyn gynted â phosib."

Does dim dyddiad newydd ar gyfer agor Ysgol Bro Hyddgen wedi ei roi gan y cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen mae'r adeiladau presennol wedi dyddio

Mae'r cynghorydd tref, Jim Honeybill eisiau gweld "gwell cyfathrebu" gyda'r cyngor sir er mwyn tawelu amheuon am ddyfodol y prosiect.

"Mae angen i'r cyngor sir roi gwybod i ni beth sy'n digwydd," meddai.

"Dydyn ni ddim yn clywed dim ac mae pobl yn meddwl bod dim byd yn digwydd - dwi'n cerdded heibio fy hun a gweld bod dim newid yma.

"Mi fyddai mwy o gyfathrebu gan Gyngor Powys yn mynd yn bell dwi'n meddwl."

Mae disgwyl oedi hefyd i brosiectau Ysgol Gymraeg Y Trallwng ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Y Trallwng.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cyngorydd Jim Honeybill bod angen "gwell cyfathrebu" gan Gyngor Powys

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Mae cwymp Dawnus wedi gweld oedi i dri o brosiectau ysgolion ym Mhowys.

"Mae'r cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gwblhau'r tri phrosiect.

"Rydym wedi llwyddo i benodi Pave Aways Ltd fel y prif gontractwr i gwblhau gwaith adeiladu yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru [yn Y Trallwng] a bydd y gwaith yn ailddechrau yno cyn hir.

"Rydyn ni nawr yn paratoi i ddechrau'r broses dendro i benodi contractwr ar gyfer prosiectau Ysgol Gymraeg Y Trallwng ac Ysgol Bro Hyddgen ac rydyn ni'n rhagweld gwneud apwyntiadau yn gynnar y gwanwyn hwn.

"Unwaith y bydd contractwr wedi'i benodi ar gyfer y ddau brosiect, byddwn yn cyflwyno ceisiadau cynllunio newydd yn ddiweddarach yn y gwanwyn."