Sain Ffagan yn ysbrydoli mawrion y byd ffasiwn
- Cyhoeddwyd
"Roedden nhw'n gweld ysbrydoliaeth ymhob twll a chornel o storfeydd, safle ac orielau Sain Ffagan."
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi derbyn sylw byd-eang wedi i'r tŷ ffasiwn Alexander McQueen ddatgelu mai casgliad yr Amgueddfa fu'r ysbrydoliaeth tu ôl i gynllun siaced sy'n cael ei gwisgo gan Beyoncé ar glawr rhifyn Rhagfyr o gylchgrawn Vogue.
Elen Phillips, curadur gwisgoedd a thecstiliau yr Amgueddfa, sy'n olrhain yr hanes tu ôl i'r clawr.
Yn Rhagfyr 2019, nes i dderbyn e-bost hollol annisgwyl gan y tŷ ffasiwn Alexander McQueen. Roedd dau o gynllunwyr y cwmni yn dod i Gymru cyn y Nadolig i wneud gwaith ymchwil, ac fel rhan o'r ymweliad, roedden nhw'n awyddus i alw draw i Sain Ffagan i weld casgliadau crefft yr Amgueddfa.
Ymhen dyddiau, dyna lle roeddwn i'n dangos eitemau wedi eu cwiltio a'u gwehyddu i'r ddau gynllunydd, ynghyd â llwyau caru a phob math o drugareddau tebyg. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd byrdwn yr ymweliad - roedd y cyfan yn ddirgelwch.
Yna, yn fuan yn y Flwyddyn Newydd daeth ail e-bost. Y tro hwn, roedd 18 o gynllunwyr eisiau ymweld â'r casgliad, gan gynnwys Sarah Burton, Cyfarwyddwr Creadigol y cwmni. Burton gymerodd yr awenau ar ôl marwolaeth y sylfaenydd Lee Alexander McQueen yn 2010, a hi gynlluniodd ffrog briodas Kate Middleton flwyddyn yn ddiweddarach.
Roedd cwrdd â'r holl gynllunwyr yn Ionawr eleni yn brofiad bythgofiadwy. Roedden nhw'n gweld ysbrydoliaeth ymhob twll a chornel o storfeydd, safle ac orielau Sain Ffagan.
Fel brand, mae McQueen yn rhoi pwyslais arbennig ar deilwra a sgiliau crefft traddodiadol, ac roedd hynny'n amlwg yn ystod yr ymweliad. Roedden nhw wir yn gwerthfawrogi creadigrwydd y gwneuthurwyr fu'n pwytho, naddu a gwehyddu'r eitemau o'u blaenau, ac roedd pob un yn awyddus i ddeall eu harwyddocâd a'u hanes o fewn cyd-destun diwylliant gweledol Cymru.
Lai na deufis ar ôl yr ail ymweliad, lawnsiwyd casgliad hydref-gaeaf Alexander McQueen yn ystod Wythnos Ffasiwn Paris - ac am gasgliad!
Roedd dylanwad Cymru a'r Amgueddfa yn treiddio drwy'r cyfan - o'r gôt a'r siwt clytwaith a ysbrydolwyd gan Gwilt Teiliwr Wrecsam, i'r bagiau wedi eu cwiltio, a'r motiffau calon wedi eu brodio ar y ffrogiau. Roedd y lliw coch hefyd yn amlwg iawn ymhob cynllun - adlais o furiau ffermdy Kennixton a ailgodwyd yn yr Amgueddfa Werin yn 1955.
Wrth drafod y cywaith gyda'r wasg, dywedodd Sarah Burton mai'r ymchwil yn Sain Ffagan oedd sbardun cychwynnol y casgliad:
"The collection is a love letter to women and to families, colleagues and friends. We went to Wales and were inspired by the warmth of its artistic and poetic heritage, by its folklore and the soul of its craft... There is a sense of protection in the clothes, of safety and comfort, evoked through quilting and blankets. The hearts are a symbol of togetherness, of being there for others."
Yn dilyn y lawnsiad ym Mharis, roedd sylw'r wasg ffasiwn ar Sain Ffagan, gydag erthyglau yn cydnabod dylanwad yr Amgueddfa ar greadigaethau newydd McQueen yn ymddangos mewn cylchgronau dylanwadol ar draws y byd.
Daeth coron ar y cyfan yn gynharach ym mis Tachwedd pan gyhoeddwyd rhifyn Rhagfyr 2020 o British Vogue gyda neb llai na Beyoncé ar y blaen yn gwisgo siaced wedi ei hysbrydoli gan lwyau caru yr Amgueddfa.
Wrth gofio'r ymweliad cyntaf hwnnw gan gynllunwyr McQueen flwyddyn union yn ôl, mae'r cyfan wedi bod yn antur gyffrous sy'n dyst i botensial anhygoel amgueddfeydd ac archifdai i ysbrydoli creadigrwydd o bob math.
Hefyd o ddiddordeb