Teleri Bevan, 'arloeswr darlledu yng Nghymru' wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Teleri Bevan

Bu farw Teleri Bevan, golygydd cyntaf BBC Radio Wales, yn 89 oed.

Treuliodd bron 40 mlynedd gyda'r BBC a hi oedd yn gyfrifol am lansio'r orsaf Saesneg genedlaethol i Gymru yn 1978.

Ar ôl ymddeol fel pennaeth rhaglenni yn 1991 ysgrifennodd lyfrau gan gynnwys ei hunangofiant a llyfrau hanes.

Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ei bod yn "arloeswr yn natblygiad darlledu yng Nghymru" ac yn "ffigwr unigryw".

Ychwanegodd: "Roedd Teleri yn benderfynol y dylai'r orsaf gyfoethogi bywydau cenhedlaeth newydd o wrandawyr ledled Cymru.

"Yn reddfol, roedd hi'n deall anghenion y gynulleidfa yng Nghymru a sut y dylai'r orsaf ymateb iddynt.

"Dylem gofio hefyd i Teleri dorri tir newydd i fenywod ym maes darlledu. Bu iddi gefnogi a hyrwyddo rôl menywod ar draws y cyfryngau - a hynny ar draul bersonol eithriadol - a gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddechrau dadwneud degawdau o siofiniaeth yn y diwydiant."

Ganed Teleri Bevan ar fferm ger Aberystwyth yn 1931 ac fe fynychodd Brifysgol Bangor cyn ymuno â'r BBC yn 1955.

Yn ystod ei chyfnod gyda'r Gorfforaeth, bu'n gyflwynydd, yn gynhyrchydd ac yn olygydd rhaglenni.

Yn y 1960au bu'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni teledu Cymraeg fel Telewele a Gwraig Y Tŷ.

Fe wnaeth hi gyfweld â ffigyrau blaenllaw ym myd adloniant a gwleidyddiaeth, gan gynnwys Syr Tom Jones a Phrif weinidog India, Indira Ghandi.

Golygydd cyntaf

Roedd yn cynhyrchu rhaglenni BBC Radio 4 pan gafodd ei phenodi'n olygydd Radio Wales.

Fe lansiodd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 1978. Cyn hynny roedd rhaglenni Cymru yn cael eu darlledu ar wahanol adegau ar donfeddi Radio 4.

Yn ei hunangofiant, ysgrifennodd y diweddar Gareth Price, cyn-bennaeth BBC Cymru, bod penodi Teleri Bevan ac amserlen yr orsaf newydd wedi achosi "dadleuon enfawr".

Yn ei lyfr Broadcasters of BBC Wales, dywedodd Price fod Teleri Bevan dan y chwyddwydr ar ddau gyfrif: "Fe feiddiodd hi i herio'r gwrthwynebiad cryf o'r ystafell newyddion, a'r golygydd dylanwadol, Gareth Bowen, ar ôl dweud ei bod am gael gwared ar raglen Good Morning Wales.

"Fe roddodd hi fwledi ychwanegol i'r gwrthwynebwyr rheiny, gyda'r rhaglen foreol newydd, AM."

Er gwaethaf dechrau sigledig i'r orsaf newydd, gyda Good Morning Wales yn dychwelyd i'r amserlen, a rhaglen AM yn symud i slot ysgafnach, cynyddu wnaeth nifer gwrandawyr Radio Wales, ac fe ddaeth Teleri Bevan yn ffigwr dylanwadol yn y BBC.

Yn 1981 fe gafodd hi ei phenodi yn ddirprwy bennaeth rhaglenni, cyn ei phenodiad yn 1985 yn bennaeth rhaglenni a chyfrifoldeb llawn am raglenni BBC Cymru.

Ar ôl ymddeol ysgrifennodd ei hunangofiant am ei chyfnod yn y BBC a sawl llyfr yn hyrwyddo merched eraill o Gymru gan gynnwys hanes Esme Kirby, sylfaenydd Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, a llyfr arall am dair cenhedlaeth o ferched sefydlodd cwmni llaethdy Rachel's yn Aberystwyth.