'Rôl hollbwysig' yn diogelu iechyd pobl Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Enfys James
Disgrifiad o’r llun,

Enfys James

Mae'r gwasanaeth Tracio ac Olrhain wedi bod yn amlwg yn y newyddion yn ddiweddar, wrth i'r Prif Weinidog Boris Johnson gael gwybod ei fod angen hunan-ynysu, ar ôl bod mewn cysylltiad ag Aelod Seneddol oedd wedi profi'n bositif i'r coronafeirws.

Wrth gwrs mae galwadau o'r fath yn cael eu gwneud yn ddyddiol, lan a lawr y wlad. Os fyddwch chi'n profi'n bositif yng Ngheredigion, mae'n bosib mai Enfys James fydd ben arall y ffôn, gan ei bod yn gweithio fel Swyddog Olrhain Cysylltiadau i dîm Diogelu Iechyd y Cyhoedd gyda Chyngor Ceredigion.

Yma mae Enfys James yn esbonio'i gwaith o ddydd i ddydd; torri'r newyddion a helpu rhai i ddelio â'r siom o brofi'n bositif:

"Mae pob achos positif sydd yn dod i fewn i'r sir yng Ngheredigion, fel Swyddog, mi fydda i mewn cysylltiad gyda'r achos positif hynny. Dwi'n 'neud galwadau ffôn yn dilyn yr achosion fyny, a siarad â'r bobl sydd wedi profi'n bositif," meddai Enfys James sydd wedi bod yn gwneud y gwaith o'i chartref ers diwedd mis Mehefin.

Enfys ar ben arall y ffôn

A hithau ag enw addas iawn ar gyfer y gwaith, gyda'r enfys wedi bod yn symbol o ddiolch i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig, sut ymateb y mae'n ei gael i'w galwadau?

"Mae'r ymateb wedi bod yn wych. Mae pob achos positif dwi wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn ystod y misoedd dwetha', maen nhw i gyd wedi cydweithredu mor dda. Beth sy'n bwysig i fi fel swyddog yw i wneud yn siŵr fy mod i'n casglu'r wybodaeth gywir oddi wrth yr achosion hyn a chael pob achos positif i roi cyfri gonest a dibynadwy o'u cysylltiadau a'u lleoliadau.

"Unwaith ydyn ni'n cael y darlun, mae fel jig-so ac mae'n rhaid i fi gael bob darn yn ei le."

Ond mae cael galwad annisgwyl yn gallu bod yn sioc i rai, ac eraill yn amau ai Swyddog Olrhain sy'n ffonio mewn gwirionedd.

"Dwi wedi cael un achos yn fy ngyhuddo i o fod yn scammer. Oedd yr alwad ffôn yna yn weddol heriol, ac yn alwad hir iawn. Ond erbyn y diwedd fe ges i'r manylion angenrheidiol ac fe ddes i ben â dweud, 'Swyddog Olrhain Cysylltiadau ydw i, dwi ddim mofyn eich manylion personol ariannol chi o gwbl'!

Graffeg tracio cysylltiadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Hunan-ynysu a hylendid da

Yr un yw'r cyngor i bawb sydd yn cael canlyniad positif, sef i hunan-ynysu a pheidio â gadael y tŷ, hyd yn oed i'r siopa.

"Maen nhw'n cael cyngor i gyfyngu ar gyswllt gyda phobl eraill yn eu cartref a chadw o leiaf dwy fetr o bellter ar bob adeg. Rwy hefyd yn rhoi gwybod iddyn nhw pa mor bwysig yw hylendid da, golchi eu dwylo'n aml, glanhau arwynebau maent wedi cyffwrdd â nhw fel y tegell, tapiau, handlenni drysau ac ati."

Ond mae sefyllfa pob unigolyn wedyn yn dibynnu ar eu amgylchiadau, ac mae Enfys James yn dweud y bydd hi bob amser yn gofyn iddyn nhw sut fyddan nhw'n rheoli ac yn ymdopi â thasgau o ddydd i ddydd.

"Os oes achos positif, mae'n dibynnu ar y person. Os oes rhywun yn byw gyda nhw yn y tŷ, gŵr, gwraig neu blant, mae'n rhaid i fi gael manylion y bobl hynny achos y cysylltiad agos yn ddyddiol.

"Wedyn fydda i angen gwybod os ydyn nhw wedi bod i archfarchnad, neu ar wyliau neu wedi bod i weld ffrind; mae'n rhaid casglu eu gwybodaeth nhw yn gywir a'i roi yn y database.

"Mae'n [swydd] weddol heriol ar adegau, mae pobl yn weddol sensitif a maen nhw'n cael siom. Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi cael galwad eu bod nhw wedi profi'n bositif cyn i fi ffonio, ond ar adegau ni yw'r bobl gyntaf i dorri'r newyddion ac mae ambell un wedi cael siom gyda fi ar y ffôn.

"Dwi'n rhoi bach o amser iddyn nhw wedyn, yn dweud 'cymerwch hanner awr fach ac fe ffoniaf i chi nôl'."

'Rôl hollbwysig'

Er bod Ceredigion wedi gweld mwy o achosion positif yn y pedwar mis diwethaf, mae ffigyrau positif o'r coronafeirws yn y sir yn dal yn isel o gymharu â rhannau eraill o Gymru, meddai Enfys James.

"Ni wedi bod yn lwcus iawn yma, ond mae'r achosion wedi cynyddu yn ystod y pedwar mis dwetha'.

"Ar ôl cael fy mhenodi'n Swyddog Olrhain Cysylltiadau, rwy' wedi sylweddoli ei bod yn rôl hollbwysig. Mae'n rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwerthfawr a sicrhau iechyd a diogelwch trigolion Ceredigion.

"Fydd yr un ohonon ni yn anghofio pandemig y coronafeirws yn 2020."

Hefyd o ddiddordeb: