15 wedi marw mewn cartref gofal yn Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Cartref Llangollen FechanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cartref Llangollen Fechan wedi ei leoli oddi ar ffordd yr A5 i'r dwyrain o Langollen

Mae tîm rheoli wedi cael ei sefydlu yn dilyn 15 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 mewn cartref gofal preifat yn Llangollen.

Dros y tair wythnos diwethaf mae 56 claf yng nghartref Llangollen Fechan wedi profi'n bositif i'r haint ac mae hynny wedi arwain at 15 marwolaeth o coronafeirws ymysg preswylwyr.

Mae 33 o staff sy'n gweithio yn y cartref hefyd wedi brofi'n bositif am yr haint dros yr un cyfnod.

Mae'r tîm Rheoli Digwyddiad yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Cyd-gadeirydd y Tîm, Nicola Stubbins: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i ymchwilio i achosion o Coronafeirws ymysg staff a phreswylwyr cartref gofal Llangollen Fechan yn Llangollen. 

"Dros y tair wythnos diwethaf, mae'n drist gennym gofnodi bod 56 o achosion positif ac 15 marwolaeth gyda Coronafeirws ymysg preswylwyr.

"Yn ogystal, mae 33 o staff wedi profi'n bositif am y feirws dros yr un cyfnod.

"Mae ein cydymdeimladau ac ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi'i heffeithio ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'n gilydd i ddelio gyda'r sefyllfa."

Mesurau rheolaeth

Yn ôl Ms Stubbins bydd mesurau rheolaeth yn cael eu rhoi mewn lle mewn cydweithrediad gyda'r cartref, gan gynnwys cyfyngu symudiadau staff a phreswylwyr er mwyn ceisio lleihau trosglwyddiad.

Byddan nhw hefyd yn cysylltu gyda phobl sydd wedi cael unrhyw gyswllt gyda'r cartref er mwyn iddyn nhw dderbyn cyngor ar warchod ei hunain.

Mae Cartref Llangollen Fechan yn darparu gwasanaethau nyrsio a gofal cyffredinol, ac yn ôl eu gwefan mae ganddyn nhw le i 70.

Mae'r cartref un o nifer sy'n cael ei rhedeg gan gwmni Roberts Care Homes sydd wedi eu lleoli yn Llandyrnog yn Sir Ddinbych.

Mewn datganiad, dywedodd Roberts Care Homes: "Rydym yn cymryd pob cam i sicrhau bod mesurau ataliol mewn lle i reoli'r haint a lleihau ymlediad.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus a chyrff eraill i fonitro'r sefyllfa ac i sichrau bod pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd.

"Mae profion cyson o'n trigolion a staff yn parhau, ac rydym yn cynghori'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad agos i hunan-ynysu yn unol â chanllawiau cenedlaethol."

Ychwanegodd y cartref bod 18 o'r 33 aelod o staff a gafodd brawf positif wedi dychwelyd i'r gwaith yn dilyn cyfnod o hunan-ynysu.