Teulu dyn fu farw â Covid mewn cartref eisiau atebion
- Cyhoeddwyd
Mae merch dyn fu farw gyda Covid-19 mewn cartref gofal yn Aberystwyth wedi dweud ei bod eisiau atebion ynglŷn â sut ddaeth y feirws i mewn i'r cartref.
Bu farw Harry Griffiths, 86, yng nghartref gofal preifat Hafan y Waun yn gynharach yr wythnos hon.
Dywedodd ei ferch Catherine, sy'n byw ym Machynlleth, ei bod wedi gorfod ffarwelio gydag ef trwy ffenest y cartref, gyda'i brawd - sy'n byw yn Hong Kong - yn ymuno â nhw trwy gyswllt fideo.
Fe ddywedodd Cyngor Ceredigion ddiwedd yr wythnos ddiwethaf bod digwyddiad "sylweddol" yn y cartref o ran achosion coronafeirws.
Does dim manylion am nifer yr achosion na marwolaethau yno, ond mae tua 90 o drigolion yn cael gofal yn y cartref.
'Ffarwelio â Dad'
"Fe gawsom ni'r alwad i fynd at Dad," meddai Ms Griffiths.
"Fe gynigon nhw i ni fynd tu mewn neu ei weld trwy'r ffenest, ac fe wnes i glywed llais fy nhad yn dweud wrtha i'n syth i beidio mynd i mewn, ac fe wnaeth fy mrawd ddweud hynny wrtha i hefyd.
"Felly aethom ni i'r ffenest, ac fe gawsom ni'r cyfle i ffarwelio â Dad mewn galwad tair ffordd i Hong Kong.
"Fe wnaethon nhw roi ei wely wrth y ffenest. Roedd Dad yn ceisio ymateb ond doedd o ddim yn gallu, ond roedd yn gwybod ein bod hi yno ac yn ei garu."
Roedd gan Mr Griffiths dementia, ac wedi byw yn Hafan y Waun ers mis Chwefror eleni.
Dywedodd ei ferch fod y cartref wedi gofalu'n dda iawn am ei thad a'i fod yn hapus yno.
Roedd wedi bod yn iach hefyd nes yn ddiweddar, pan fu'n rhaid ei gymryd i Ysbyty Bronglais, a daeth cadarnhad bod ganddo Covid-19.
Dywedodd Ms Griffiths fod ei thad wedi dal y feirws yn Hafan y Waun, er bod gan y perchnogion, Methodist Homes Association, bolisïau llym am beidio â gadael unrhyw un sydd wedi profi'n bositif am y feirws i fynychu'r cartref.
Dydy hi ddim yn rhoi'r bai ar y cartref, ac mae hi'n bryderus y gallai ysbyty lleol fod wedi rhyddhau claf oedd â Covid-19 i'r cartref.
"Dydw i ddim yn deall sut mae hyn wedi digwydd - ym mis Mawrth ac Ebrill roedden ni'n clywed am y sefyllfaoedd ofnadwy mewn cartrefi gofal, gyda phobl fregus yn marw," meddai Ms Griffiths.
"Ond fe wnes i weld cynlluniau'r Methodist Homes Association ac roedden nhw'n gadarn a diogel, felly ro'n i'n teimlo'n gyfforddus.
"Doedd yr un person yn y cartref wedi mynd yn sâl ers mis Mawrth, felly dydw i ddim yn deall sut bod hyn wedi digwydd.
"Mae polisïau Cyngor Ceredigion wedi bod yn llym, a'r cartref hefyd, felly pam fod fy nhad wedi marw?"
Mewn ebost gafodd ei yrru at deuluoedd preswylwyr, dywedodd rheolwyr y cartref eu bod yn "delio gyda chlwstwr o achosion Covid-19".
"Daeth i'r amlwg wedi i breswylydd gael prawf positif am Covid-19 wrth gael eu rhyddhau o Ysbyty Bronglais," meddai'r ebost.
Mae'r cartref wedi profi'r holl staff a phreswylwyr, ac yn parhau i ddisgwyl am rai canlyniadau.
Ond dywedodd Cyngor Ceredigion mai disgwyl i gael ei ryddhau o'r ysbyty oedd y preswylydd pan gafodd y prawf positif, ac o ganlyniad ni chafodd ei ryddhau.
"Ni chafodd y preswylydd ei ryddhau i'r cartref gofal ar ôl derbyn y prawf positif am Covid-19," meddai llefarydd.
"Rwy'n dychmygu bod pawb eisiau atebion," meddai Ms Griffiths.
"Teuluoedd staff y cartref, y gymuned ehangach - ry'n ni oll eisiau gwybod beth aeth mor ddifrifol o'i le er mwyn galluogi i hyn ddigwydd."
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gyfrifol am Ysbyty Bronglais, wedi cael cais am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020