Tri wedi eu trywanu yng nghanol Caerdydd nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi eu trywanu yn ystod digwyddiad "treisgar" sylweddol yng nghanol dinas Caerdydd.
Cafodd yr heddlu a chriwiau ambiwlans eu galw i ardal yn Heol y Frenhines tua 21:50 nos Sadwrn.
Mae pedwar o bobl wedi'u harestio ar amheuaeth o achosi aflonyddwch treisgar ac maen nhw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw yn dilyn "nifer o adroddiadau" am "aflonyddwch sylweddol" ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Arestiwyd pedwar o bobl ar amheuaeth o aflonyddwch treisgar.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Esyr Jones fod y digwyddiad yn cynnwys "llanciau lleol".
Ddydd Sul, dywedodd yr heddlu fod tri o bobl wedi derbyn gofal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gydag un arall yn Ysbyty Llanddochau.
Nid yw'n debyg fod eu hanafiadau yn rhai all beryglu bywyd.
Dywedodd yr heddlu bod Taser hefyd wedi cael ei ddefnyddio i reoli un dyn oedd yn rhwystro swyddogion, er nad oedd wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y digwyddiad.
Dywedodd un llygad dyst, Elizabeth Winter: "Roedd yn ymddangos bod rhai grwpiau o lanciau ifanc yn dadlau gyda'r heddlu. Roedd na ddyn arall gafodd ei dawelu gan wn Taser ddwywaith."
Dywedodd Amogh George, 24, sydd yn fyfyriwr o Gaerdydd, ei fod wedi gweld hyd at 30 o heddweision o amgylch Heol y Frenhines a Chanolfan Siopa'r Capitol ar ôl clywed "llawer o seirenau".
"Roedd pobl yn siarad am ffrwgwd ond ni welais beth oedd yn digwydd," meddai.
Roedd cyfyngiadau yn parhau ar Heol y Frenhines fore dydd Sul.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.