Beth am bach o Pobol y Cwm... a Phaned?
- Cyhoeddwyd
Mae Pobol y Cwm wedi bod ar ein sgrin ers 46 o flynyddoedd, tra bod podlediadau yn ffenomenon ychydig bach mwy newydd. Ond eleni mae'r ddau fyd wedi uno, wrth i dri ffan ifanc o'r brifddinas ddechrau podlediad newydd o'r enw Pobol y Cwm a Phaned.
Mae Betsan, Osian a Ioan yn ddisgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Glantaf, ac wrth eu boddau yn trafod hynt a helynt y Cwm, yn pasio barn am eu hoff a chas gymeriadau, a rhannu barnau amhoblogaidd am eu hoff opera sebon.
Felly pam wnaeth y tri benderfynu dechrau podlediad am un o drysorau'r genedl?
Betsan: Cyn Covid, 'naethon ni ddechrau clwb yn yr ysgol, o'r un enw, i drafod Pobol y Cwm. Ond mond rhyw dri ohonon ni oedd yn troi fyny a wedyn ddaeth lockdown...
Ar ôl hynny 'naethon ni gwrdd, a siarad am Pobol y Cwm, beth oedden ni wedi ei fethu, a'r rhaglenni arbennig, a 'naethon ni feddwl...
Osian: …ni'n rili da am siarad…! O'n i'n meddwl 'neud podlediad, achos o'n i'n meddwl bydde fe'n rhywbeth hwyl. "Dylwn ni 'neud un am Pobol y Cwm!"
Hwnna o'dd yr amser pan oedd Pobol y Cwm ddim ar y teledu, ond o'dden nhw'n 'neud specials gyda'r cymeriadau. 'Naethon ni jest 'neud e ac o'dd 'na gynulleidfa i wrando arno fe.
O'n ni ddim yn poeni am neb yn gwrando, a dyw e ddim fel bo' ni'n siarad am Eastenders. Ond pob wythnos, mae'r gynulleidfa yn tyfu, diolch i bobl sydd yn tweetio amdano fe.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Dwi acshyli'n enjoio hwn'
O sgwrsio am hoff gyplau'r gyfres i gael rant tanbaid am steil ffasiwn rhai o'r cymeriadau, mae'r tri ffrind wrth eu boddau yn trin a thrafod a dadansoddi'r penodau.
Ond beth am Pobol y Cwm sydd yn ei gwneud yn gyfres werth ei gwylio?
Betsan: Pan o'n i'n clywed am Pobol y Cwm, o'n i wastad wedi troi fy nhrwyn arno fo yn meddwl 'thing i hen bobl 'di hwnna'. Ond pan nes i wylio fo, o'n i'n meddwl 'o, dwi acshyli'n enjoio hwn'.
Mae'r pynciau yn eitha' cyfoes drwy gydol o a mae o'n hawdd i'w drafod. Dwi'n annog unrhyw un i'w wylio fo.
Ioan: Ges i nghroesawu i Pobol y Cwm gan Betsan ac Osian oherwydd y clwb - "Ti mo'yn ymuno gyda'r clwb? Iawn, go on 'te!" Ers i'r clwb ddechrau rili, ac ar ôl y lockdown, ail-afael ynddo a dechrau podlediad!
Osian: Mae e ar yr un lefel, yn fy marn i, ag Eastenders a Coronation Street, jest bod e yn yr iaith Gymraeg. A dwi'n meddwl fod hwnna'n rili pwysig i'n cymdeithas ni - y gymdeithas Gymraeg - achos mae e'n hybu'r iaith ond mewn ffordd sydd ddim yn ffurfiol. Dyw e ddim yn iaith anodd i'w deall a maen nhw'n siarad fel ni'n siarad.
Ioan: Fy hoff gymeriad, rhaid i fi ddweud, ydi Kelly. Mae hi'n eitha' doniol. Wythnos diwetha' pan o'dd hi'n cican off, o'n i fel 'w go Kelly!'. Kelly a Dani - pan mae'r ddwy yna gyda'i gilydd, mae e'n grêt!
Betsan: Dwi'n licio Colin. Mae o'n annwyl, a mae o jyst yn gwneud pethau bach i wneud i ti chwerthin. Mark hefyd... dwi jyst yn licio'r straeon bach; ddim y straeon mawr, ond y pethau bach sy'n eitha' entertaining i wylio.
Dwi hefyd, mae rhaid i mi ddweud, yn rili licio Dylan, ond dwi'n licio'i gasáu o.
Osian: Fi'n rili hoffi Kath. Hi yw'r math o berson fi mo'yn bod pan fi'n hŷn! Cael yr hyder yna i beidio poeni. I fi, hi yw'r gorau yn y Cwm.
Tri ffrind yn cael sgwrs
Mae Ioan ac Osian wedi adnabod ei gilydd ers yr ysgol gynradd, ac ar ôl i Betsan symud i lawr o'r gogledd pan oedd hi ym mlwyddyn 10, mae'r tri wedi dod yn ffrindiau drwy eu diddordeb mewn drama a pherfformio.
Felly, yn ei hanfod, mae'r podlediad yn dri ffrind yn mwynhau cael sgwrs am un o'u hoff bynciau...
Osian: Ni jest yn cael chat am Pobol y Cwm, fel tase ni yn, ond bo' ni'n recordio fe a rhoi e lan ar y we.
Betsan: 'Dan ni'n trio cael rhyw strwythur, ond yn amlwg achos ei fod o'n bodlediad eitha' newydd, 'dan ni dal yn dod i arfer efo fo. 'Dan ni'n trafod be' sydd wedi digwydd, ond mae 'na lot o fynegi barn am gymeriadau.
Weithiau mae 'na straeon 'da ni'n rili uniaethu efo fo - sef hanner y rheswm 'dan ni'n licio Pobol y Cwm yn y lle cynta'. 'Dan ni wedyn yn rhoi Paned y Bennod...
Osian: Ni'n judgo'r bennod, ac yn dweud pa fath o bennod ni'n meddwl fase'r bennod yna yn cael.
Betsan: I rai gwael, 'dan ni'n rhoi llaeth stêl...
Osian: Os mae mwy o bobl ishe fe, mae hwnna'n rhoi'r egni i ni 'neud e. Ond hyd yn oes os oes neb yn gwrando arno fe, mae ganddon ni dal y tân yn ein bol i 'neud y podlediad.
Y bwriad yw cario 'mlaen i 'neud e, a chael hwyl!
Hefyd o ddiddordeb: