Gwirio nwyddau porthladd Caergybi yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
caergybiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caergybi ydy'r ail borthladd mwyaf o'i fath yn y DU ar ôl Dover, gyda 1,200 o lorïau a threlars yn defnyddio'r gwasanaeth pob dydd

Bydd adnoddau gwiriadau tollau am nwyddau sy'n pasio drwy borthladd Caergybi wedi eu lleoli yn Birmingham a Warrington pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben, meddai'r Gweinidog Economi, Ken Skates.

Wrth siarad gyda Phwyllgor Economi'r Senedd, dywedodd Mr Skates bod y lleoliadau "wedi eu dewis gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac maen nhw'n berthnasol i ogledd Cymru".

Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Russell George AS iddo a oedd hynny'n golygu bod nwyddau fyddai'n dod i Gymru yn gorfod mynd drwy'r gwiriadau yn Lloegr gyntaf cyn dychwelyd, dywedodd Mr Skates "nad hwn yw'r dewis gorau".

"Yn nhermau cynllunio, roedd CThEM braidd yn hwyr yn y dydd yn dechrau trafod gyda ni mae gen i ofn.

"Mae CThEM wedi penderfynu mai safleoedd yn Birmingham a Warrington fydd yn cael eu defnyddio am gyfnod dros dro."

Cadarnhaodd cwmni Stena Line ddydd Mawrth bod penderfyniad wedi ei wneud i ddatblygu adnodd gwiriadau tollau bellter o borthladd Caergybi.

Roedd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi Huws, wedi galw am gael canolfan wirio mor agos at borthladd Caergybi â phosib, gan fynegi pryderon am effaith unrhyw ddewis arall "ar y defnydd o'r porthladd yma a cholli swyddi".