Taro a ffoi ysbyty Llantrisant: Dyn wedi ei anafu

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty

Mae dyn wedi cael anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gar wnaeth fethu a stopio wedi'r digwyddiad mewn ysbyty.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn wedi ei daro ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant am tua 10:00 fore Gwener.

Mae'r dyn yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ond nid yw ei anafiadau'n peryglu ei fywyd.

Apeliodd yr heddlu am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad, oedd yn ymwneud â Citroen Saxo lliw arian.