Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Cymru 13-24 Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Johnny Williams yn dathlu ar ôl croesi i GymruFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Johnny Williams yn dathlu ar ôl croesi i Gymru

Hon oedd y seithfed gêm allan o naw i Gymru ei cholli dan Wayne Pivac, ond fe fydd yr hyfforddwr wedi ei galonogi rhywfaint gan berfformiad mwy addawol.

Golygai'r canlyniad fod Cymru yn drydydd yn grŵp B, y tu ôl i Loegr ac Iwerddon.

Yn erbyn y chwarae, Cymru aeth ar y blaen yn gynnar yn y gêm ym Mharc Y Scarlets, Llanelli.

Fe wnaeth Biggar lwyddo i rwystro cic Slade a chicio'r bêl yn ei blaen, ac yna cafodd ei dilyn yn llwyddiannus gan y canolwr Johnny Williams a lwyddodd i gyrraedd gyntaf a chroesi'r llinell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er i Halfpenny drosi, fe darodd Lloegr yn ôl cyn diweddd yr hanner.

Roedd yna gais i Henry Slade a dwy gic cosb i Owen Farrell, gan roi mantais o 11-7 i'r Saeson.

Wedi'r egwyl fe wnaeth Mako Vunipola groesi'r llinelli, ac fe orffennodd Farrell y gêm gyda 14 o bwyntiau o'r esgid.

Ond bydd yna rhywfaint o gysur, na lwyddodd Lloegr i gael y fuddugoliaeth ysgubol yr oedd rhai wedi ei ddarogan.

Bydd yna gysur hefyd fod Cymru wedi gorfod chwarae heb nifer o'u chwaraewyr profiadol.

Oherwydd anafiadau roedd Jonathan Davies, Liam Williams, Josh Navidi, Ken Owens, Justin Tipuric a Ross Moriarty yn absennol.