Dechrau profi myfyrwyr cyn mynd adre dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lois
Disgrifiad o’r llun,

"Bydden i'n casáu mynd adre a mynd â rhywbeth nôl i mam-gu a gweddill y teulu," meddai Lois Campbell

"Mae e'n fwy o gysur i fi'n bersonol yn gwybod bo' fi'n gallu mynd gartre'n ddiogel, yn gwybod bo' fi'n gallu gweld mam-gu a theulu a gwneud yn siŵr bo' nhw i gyd yn ddiogel."

Mae Lois Campbell, myfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi trefnu apwyntiad am brawf Covid cyn dychwelyd adre am y Nadolig.

Ar draws Cymru, mae prifysgolion yn cynnig profion asymptomatig fel rhan o gynllun ledled y DU i reoli sefyllfa fydd yn gweld degau o filoedd o fyfyrwyr yn teithio ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd dysgu prifysgolion Cymru yn symud ar lein o 8 Rhagfyr a myfyrwyr yn cael eu hannog i deithio erbyn 9 Rhagfyr.

"Mae llawer iawn o achosion yng Nghaerdydd ar y foment, felly bydden i'n casáu mynd adre a mynd â rhywbeth nôl i mam-gu a gweddill y teulu os o'n i ddim yn gwybod bo' fi yn saff i wneud 'ny", meddai Lois o Landeilo.

'Dal ar y ffens' am gael prawf

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Deio Owen bod teimladau "cymysg" ymysg myfyrwyr am y profi

Dydy Deio Owen, sydd ym mlwyddyn gyntaf cwrs Cymraeg a Gwleidyddiaeth, ddim yn gallu cael prawf am ei fod wedi cael prawf positif am Covid o fewn yr wyth wythnos ddiwethaf.

Mae'n dweud bod yna deimladau "cymysg" gan y myfyrwyr mae'n eu 'nabod am y profi.

"Dwi'n meddwl fydden i wedi ei gael o just o ran sicrwydd bo' fi ddim yn rhoi o i neb adre gan bo' fi'n dod o ddinas ac yn mynd nôl i ardal wledig adre," meddai Deio o Bwllheli.

"Ond hefyd ella ddim oherwydd 'da chi ddim yn gw'bod os yw'r prawf gant y cant cadarn, o ran gallu rhoi false negative i chi, ac wedyn 'da chi'n rhedeg y risg yna hefyd, so dwi dal ar y ffens mewn ffordd os fuaswn ni wedi cael o neu ddim."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Trwy gynnig profion o ddechrau Rhagfyr, y bwriad yw sicrhau bod unrhyw fyfyrwyr sy'n gorfod hunan-ynysu yn gallu gorffen y cyfnod mewn pryd i ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig.

Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion Cymru yn cynnig profion cyflym fel rhan o raglen brofi myfyrwyr y llywodraeth.

Ond mae Prifysgol Caerdydd wedi rhedeg rhaglen brofi ei hun ers dechrau'r tymor.

Hyd yn hyn mae tua 6,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer prawf fel rhan o'r rhaglen brofi Nadolig - sy'n rhedeg rhwng 30 Tachwedd a 15 Rhagfyr.

'Fydd hi'n saff i ni ddod nôl?'

Dywedodd is-ganghellor y brifysgol, Colin Riordan, eu bod yn annog myfyrwyr i gael prawf ond yn methu eu gorfodi.

"Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw esbonio'n glir iawn i'n myfyrwyr fanteision cymryd prawf - sef y galle nhw fod heb symptomau ac yn bositif," meddai.

"Siawns nad yw'n well peidio â mynd adref, heb hunan-ynysu os yw hynny'n wir."

Ychwanegodd: "Felly mae'n rhoi cyfle iddyn nhw wneud y penderfyniad yna. Bydd ganddyn nhw fwy o wybodaeth."

Ond wrth i'r profi cyn y Nadolig ddechrau, mae cwestiynau am beth fydd yn digwydd ym mis Ionawr pan fydd y tymor yn ailddechrau.

"A fydd hi'n saff i ni ddod nôl i Gaerdydd?" mae Lois yn gofyn, ynglŷn â dychwelyd i'w llety ar ddechrau'r tymor newydd.

"A fydd hi'n saff i ni ddod nôl i'r bubble yn y fflat achos mae pawb wedi dod o bump bubble gwahanol?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae ansicrwydd am y trefniadau ar gyfer y flwyddyn newydd, yn ôl Steffan Alun Leonard

Mae Steffan Alun Leonard, 18 ac hefyd yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cytuno bod yna ansicrwydd ynglŷn â'r broses o ddod nôl i'r brifddinas o gartre' ei deulu yn Aberta

"Dy' ni ddim wedi cael clywed os ni'n gorfod hunan-ynysu pan ni'n dod nôl ar ôl y Nadolig, os rhaid i ni hunan-ynysu yng Nghaerdydd, gartre, mae gyd lan yn yr awyr ar hyn o bryd," meddai.

Profion yn y flwyddyn newydd

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer Ionawr, ond yn y cyfamser dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn bwriadu gofyn i fyfyrwyr ddychwelyd yn raddol a chynnig profion iddyn nhw.

"Mae gennym ni ddyddiadau cychwyn ychydig yn wahanol ar gyfer gwahanol gyrsiau beth bynnag felly mae hynny'n ddefnyddiol," meddai'r Athro Riordan.

"Does dim angen i bob un ohonyn nhw fod yma erbyn dyddiad penodol ac rydyn ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cyfle hefyd pan fyddan nhw'n cyrraedd i gymryd prawf, ac yna i allu hunan-ynysu os ydyn nhw'n profi'n bositif."we.