Profi myfyrwyr sy'n mynd adref ar gyfer y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i sicrhau fod myfyrwyr Cymru'n gallu teithio adref ar gyfer gwyliau'r Nadolig, sy'n cynnwys cynllun peilot i brofi unigolion heb symptomau.

Bydd profion Covid-19 newydd, sydd wedi'u cynllunio ar gyfer pobl asymptomatig ac yn rhoi canlyniadau sydyn, yn cael eu darparu trwy gyfleusterau newydd mewn prifysgolion i fyfyrwyr sy'n bwriadu treulio'r ŵyl gyda'u teuluoedd.

Fe fydd mwyafrif gwersi wyneb yn wyneb yn dod i ben yn ystod yr wythnos hyd at 8 Rhagfyr, sy'n rhoi digon o amser i unrhyw un sy'n cael canlyniad positif hunan-ynysu am 14 diwrnod cyn mynd adref.

"Ein blaenoriaeth ni, a'r flaenoriaeth i'n prifysgolion, yw galluogi myfyrwyr i deithio adref yn ddiogel, ac ar yr un pryd leihau'r risg o drosglwyddo'r coronafeirws," meddai'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "anelu at gael pob prifysgol i gymryd rhan yn y cynllun profi".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i fyfyrwyr drefnu i adael erbyn 9 Rhagfyr er mwyn bod adref ar gyfer y Nadolig

Bydd disgwyl i fyfyrwyr sy'n bwriadu teithio adref am y Nadolig:

  • cysylltu llai â phobl eraill yn gymdeithasol yn y cyfnod cyn diwedd y tymor;

  • cael prawf sy'n profi pobl asymptomatig, yn ddelfrydol o fewn 24 awr cyn teithio;

  • trefnu i deithio erbyn 9 Rhagfyr ar yr hwyraf, a chaniatáu amser i ad-drefnu eu cynlluniau rhag ofn y bydd angen hunan-ynysu; a

  • dilyn trefniadau addysg wyneb yn wyneb eu prifysgol a'r trefniadau i sicrhau bod pobl yn gallu gadael campysau'n ddiogel.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyfathrebu'n uniongyrchol â myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn prifysgolion yn rhannau eraill o'r DU.

Bydd llywodraethau Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cyhoeddi eu cynlluniau nhw ar wahân mewn cysylltiad â'r myfyrwyr sy'n byw yno. Mae llywodraethau'r pedair gwlad wedi cydweithio dros yr wythnosau diwethaf cyn cyhoeddi'u trefniadau.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefniadau'n sicrhau bod myfyrwyr Cymru'n treulio'r gwyliau "yn y lle y maen nhw'n dymuno gwneud hynny, ac mewn ffordd ddiogel" medd Kirsty Williams

Mae'n bwysig, medd Kirsty Williams, bod myfyrwyr yn" cymryd camau i leihau'r cyfleoedd y gallent ddod â'r feirws yn ôl adref a'i drosglwyddo i ffrindiau ac i aelodau o'r teulu" wrth baratoi i deithio adref.

"Po fwyaf y mae nifer y bobl sy'n ymgynnull i gymdeithasu, y mwyaf yw'r risg o ddal y coronafeirws," meddai.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU i sicrhau bod pob myfyriwr, ble bynnag maen nhw'n byw neu'n astudio, yn cael eu trin yn deg ac yn gallu teithio adref mor ddiogel â phosibl.

"Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'n prifysgolion i roi cynllun peilot ar waith ar gyfer profi pobl heb symptomau ar lefel dorfol cyn diwedd y tymor.

"Byddwn yn annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw er mwyn ei gwneud yn haws iddynt ddychwelyd adref ar ddiwedd y tymor.

Ymatebion i'r cyhoeddiad

Wrth groesawu'r cam dywedodd y corff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru bod yr "egwyddorion yma'n rhoi strwythur i brifysgolion gefnogi myfyrwyr i deithio adref".

Dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yr Athro Julie Lydon bod y cynlluniau hefyd yn "cydnabod na fydd bydd rhywfaint o'r ddarpariaeth, fel lleoliadau, yn symud ar-lein erbyn 9 Rhagfyr, ac yn caniatáu hyblygrwydd i brifysgolion yn hynny o beth".

Croeso cyffredinol, gydag ambell bryder, sydd gan y gwrthbleidiau wedi'r cyhoeddiad.

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies fod darparu profion ar fyr rybudd gyda chanlyniadau buan iawn yn "edrych yn addawol iawn".

Ond rhybuddiodd rhag eu cynnal "dim ond ar gyfer y Nadolig" a bod angen i brifysgolion fanteisio ar gyfle i sicrhau mwy o addysg wyneb yn wyneb "yn hytrach nag ymlacio i sefyllfa ble mae popeth ar-lein".

Mae Plaid Cymru'n galw am "ganllaw cynhwysfawr" i sicrhau bod myfyrwyr yn dychwelyd i'r brifysgol yn ddiogel yn y flwyddyn newydd.

Ychwanegodd llefarydd addysg ôl-16 y blaid, Helen Mary Jones: "Dydy hi ddim eto'n glir a fydd pob prifysgol yn cynnig profion."