Rygbi Cymru: George North yn ôl ond fel canolwr
- Cyhoeddwyd
George North fydd yn dechrau fel canolwr i dîm rygbi Cymru yn erbyn yr Eidal yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref dydd Sadwrn, gyda naw newid i'r tîm cyfan.
Bydd y blaenasgellwr Justin Tipuric, a gollodd y gêm wythnos diwethaf o ganlyniad i gnoc i'w ben, yn dychwelyd i'r rheng ôl ynghyd â James Botham a Taulupe Faletau.
Bydd y cefnwr Liam Williams hefyd yn dychwelyd ar ôl gorfod cael 15 pwyth i'w wefus yn ystod y gêm yn erbyn Georgia.
Mae prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac wedi gwneud naw newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Lloegr yr wythnos ddiwethaf.
Gwnaeth Pivac 13 o newidiadau i'r tîm pan chwaraeon nhw yn erbyn Georgia, ac 8 arall yn erbyn Lloegr.
Bydd Nicky Smith, Sam Parry a Tomas Francis yn rhan o'r rhengflaen newydd, gyda'r bachwr Parry yn dechrau i Gymru am y tro cyntaf ar ôl dod ymlaen o'r fainc tair gwaith yn y gorffennol.
Mae Liam Williams hefyd wedi cael ei alw fyny i'r tîm yn lle Leigh Halfpenny, ac mae Ioan Lloyd yn cael ei enwi fel un o'r eilyddion.
Collodd North y gemau yn erbyn Lloegr a Georgia ar ôl cael ei ryddhau nôl i chwarae i'r Gweilch.
Gwnaeth ei ganfed ymddangosiad fel eilydd yn ystod gêm Cymru yn erbyn Iwerddon.
Y tro diwethaf i North ddechrau fel canolwr allanol i Gymru oedd pan enillon nhw 42-0 yn erbyn yr Eidal yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.
Tîm Cymru i wynebu'r Eidal:
Liam Williams; Josh Adams, George North, Johnny Williams, Louis Rees-Zammit; Callum Sheedy, Kieran Hardy Williams; Nicky Smith, Sam Parry, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (capt), James Botham, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Leon Brown, Cory Hill, Aaron Wainwright, Gareth Davies, Ioan Lloyd Sheedy, Jonah Holmes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2020