Gofalwyr Cymru wedi colli cymorth yn ystod Covid
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ofalwyr yng Nghymru sy'n gweithio'n ddi-dâl wedi "blino" ac yn galw am ailgyflwyno'r gefnogaeth maen nhw wedi ei golli yn ystod y pandemig.
Dyna'r neges gan un elusen, wrth i waith ymchwil awgrymu fod problemau iechyd meddwl rhai o'r gofalwyr hynny yn cynyddu.
"Mae'r pandemig wedi rhoi pwysau mawr ar ofalwyr yng Nghymru sy'n gofalu am eu hanwyliaid 24 awr y dydd heb gefnogaeth allanol," medd Claire Morgan, cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru.
"Mae gofalwyr yn wirioneddol poeni sut y mae nhw'n mynd i ymdopi yn y gaeaf yn ystod mwy o gyfnodau clo posib a chyfyngiadau llymach."
Mae'r elusen wedi siarad â bron i 600 o ofalwyr yng Nghymru ac mae mwy na thraen ohonynt yn dweud eu bod yn darparu mwy o ofal ers mis Mawrth.
Dywedodd nifer tebyg bod y gwasanaethau lleol roedden nhw'n arfer eu derbyn wedi lleihau neu ddod i stop yn ystod Covid.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau i ofalwyr yn dychwelyd cyn gynted â phosib," ychwanegodd Ms Morgan.
Gofalu yn ystod Covid
Mae Jean, sy'n 60 oed, yn gwybod llawer am wasanaethau cymdeithasol - roedd hi'n weithwraig gymdeithasol ei hun am 40 mlynedd cyn iddi ymddeol i ofalu am ei merch yn ardal Abertawe.
Mae Branwen, sydd bellach yn 25 oed, yn byw gydag oedi mewn datblygiad sy'n golygu ei bod hi angen gofal a chefnogaeth hirdymor.
"Mae wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i Branwen," meddai ei mam.
"Mae hi'n hynod o ofnus gan ei bod yn gwrando ar y newyddion gyda fi a'r wythnos yma mae hi wedi bod yn crio wedi iddi glywed am farwolaethau Covid."
Cyn Covid dywedodd Jean bod ei merch yn "ddynes ifanc hynod o fywiog" wrth iddi dreulio ei hwythnos mewn canolfannau gweithgaredd neu mewn swydd.
"Wrth gwrs mae hynna wedi dod i ben," meddai.
"Mae e'n gyfnod llwyr o hunan-ynysu gan fod y rhan fwyaf o'r rhai y mae Branwen yn arfer cymdeithasu â nhw hefyd yn bobol ifanc ag anableddau dysgu," ychwanegodd Jean.
Ond mae'r pandemig yn cael effaith ar fywydau rhieni Branwen hefyd wrth iddyn nhw orfod cyflawni mwy o ddyletswyddau gofal.
"Rwy'n teimlo weithiau fel dianc, gan fod hi mor anodd arnom ar adegau," meddai ei mam.
"Yn sicr mae'r cyfan wedi cael effaith ar ein hiechyd meddwl - does dim amheuaeth am hynny."
(Mae enwau Jean a Branwen wedi cael eu newid ar eu cais nhw)
Mae gwaith ymchwil, sy'n cael ei arwain gan dîm o seicolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn dweud fod problemau iechyd meddwl gofalwyr sy'n edrych ôl plant sydd ag anghenion dysgu yn ystod y cyfnod clo 10 gwaith yn fwy na rhieni eraill.
Roedden y gofalwyr hynny hefyd bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi iselder.
Cafodd arolwg 244 o ofalwyr eu dadansoddi ac roedd naw o bob 10 gofalwr yn ferch.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar Ddeddf y Coronafeirws 2020 a gofal cymdeithasol yng Nghymru, dolen allanol.
Cyn Covid roedd gan berson oedd angen gofal, a gofalwyr hawl gyfreithiol i ofyn i awdurdodau lleol asesu eu hanghenion.
Ond daeth yr hawliau i ben dros dro yn ystod y cyfnod clo cyntaf yng Nghymru.
Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 2 Tachwedd.
Arian ychwanegol
Mae nifer o ofalwyr yn poeni na fydd y gefnogaeth y maen nhw wedi ei cholli ers y pandemig yn dychwelyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £2.6m i sefydliadau gofal yng Nghymru i dalu am brosiectau yn ystod y tair mlynedd nesaf - prosiectau fydd yn helpu gofalwyr i wybod am eu hawliau ac i wella gwasanaethau.
Ychwanegodd llefarydd bod £50,000 wedi cael ei roi i Gofalwyr Cymru er mwyn iddynt ymestyn eu cefnogaeth iechyd meddwl.
Ddydd Mawrth cyhoeddwyd y bydd swm o £1m ar gael ar gyfer caledi ariannol gofalwyr.
Ychwanegodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y gwaith arbennig sy'n cael ei wneud gan ofalwyr yn ystod amgylchiadau anodd y pandemig".
"Ry'n ni wedi darparu cyllid o dros £2.5m i gefnogi gofalwyr a £8.5m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020