Lle oeddwn i: Delwyn Siôn ac Un Seren

  • Cyhoeddwyd
Delwyn SiônFfynhonnell y llun, Delwyn Siôn

Mae'r Nadolig yn nesàu a chaneuon yr ŵyl yn adleisio yn y siopau ond i nifer, un gân sy'n nodi dyfodiad ac ystyr y Nadolig sef Un Seren gan Delwyn Siôn. Ers ei berfformiad ef o'r gân, mae nifer eraill wedi ei chanu ond nid Delwyn Siôn a'i chanodd gyntaf, er mai fe â'i chyfansoddodd.

Beth yw'r hanes y tu ôl i'r gân sydd bellach yn anthem y Nadolig yng Nghymru? Delwyn Siôn fu'n dweud mwy am y cefndir wrth Cymru Fyw:

1982 oedd y flwyddyn ac roedd hi'n brynhawn Iau gwlyb ym Mangor Uchaf. Yn digwydd bod roeddwn i'n gweithio i raglen ddychan ar Radio Cymru sef Pupur a Halen ac wrth fynd drwy'r papurau dyma ddod ar draws dwy stori. Un oedd yn dweud nad oedd henoed yn cael tegwch a'r llall yn dweud bod gwyddonwyr wedi dod o hyd i sêr y tu ôl i sêr - ryw nebulae nad oedd gwyddonwyr erioed wedi'u gweld o'r blaen.

O'dd y ddwy stori 'ma yn mynd rownd a rownd yn fy mhen i a dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio un gân.

Ffynhonnell y llun, Delwyn Siôn
Disgrifiad o’r llun,

Delwyn a'i rieni yn mwynhau'r Nadolig yn Aberdâr

Yn gefndir i hyn i gyd roedd fy magwraeth i adref yn Aberdâr a'r atgofion am Dad-cu a Mam-gu yng Nghwm Nedd - dyma feddwl am y Nadolig a chofio mai un seren oedd yn bwysig i ni gyd fel teulu, sef seren Bethlehem.

Fe gollais i fy Nhad-cu a'm Mam-gu pan yn saith a 10 oed ond fe gawson nhw ddylanwad aruthrol arna i heb iddynt sylweddoli hynny.

Gwraig tŷ oedd Mam-gu ac roedd fy Nhad-cu yn löwr ac roedden nhw'n bobl dda a oedd wedi meithrin y gwerthoedd gorau. Ro'dd yna wastad deimlad o gariad a chynhesrwydd ar yr aelwyd ac roedd hi'n aelwyd Gristnogol, wrth gwrs.

Felly hefyd ein cartref ni yn Aberdâr - a phan dwi'n canu Un Seren rwy'n cofio'r darlun o Mam a Dad yn canu Dawel Nos yn y parlwr o amgylch y piano a fi yn blentyn bach yn y gwely.

Roeddwn i gyda llaw, pan yn blentyn, yn hoff iawn o orwedd yn fflat ar y palmant yn edrych drwy'r telesgop ar y sêr ac yn cofio gweld y lleuad a'r blaned Gwener a weithiau Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Delwyn Siôn
Disgrifiad o’r llun,

Tad-cu a Mam-gu Delwyn, sy'n rhan bwysig o eiriau'r gân adnabyddus

"Pe bawn i'n gallu dweud wrth dad-cu..."

Byddai Dad-cu wedi rhyfeddu bod dyn yn gallu cerdded ar y lleuad a byddai Mam-gu wedi rhyfeddu bod rhywun yn gallu gweld yn bellach na'r sêr oedd hi'n gallu eu gweld, ond diwedd y gân sy'n bwysig sef y gobaith y mae genedigaeth plentyn bach mewn tlodi yn ei gynnig i ni.

Rhyfeddod genedigaeth y plentyn bach 'ma yw'r Nadolig i fi, nid ffaldirál y masnachu - ac mae'r hyn roedd gyda'r babi bach i'w ddweud yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear wedi hynny mor werthfawr.

Felly chafodd Un Seren ddim mo'i chyfansoddi yn arbennig ar gyfer y Nadolig - datblygu o ddwy stori mundane wnaeth hi. Fe gafodd ei chyfansoddi yng nghanol bwrlwm stiwdio - roedd yna sŵn papurau, sŵn gweiddi a lot o fynd a dod ac nid fi a'i chanodd hi ond Dyfan Roberts.

Mae yna beth tacluso wedi bod ar bethe ers hynny ond dim llawer. Ydi, mae hi bron yn ddeugain oed ac rwy'n diolch i bobl ar hyd y blynyddoedd am eu geiriau caredig amdani.

Mae wedi datblygu yn gân Nadolig ond yn y bôn mae hi'n rhan o pwy ydw i a be' dwi'n gredu ac yn bortread o werthoedd cynnar fy magwraeth.

Mae'r telesgop 'na dal gen i - efallai ddylwn i ail-ddechrau edrych ar y sêr, ond fi'n credu bo fi'n rhy hen i orwedd ar y palmant erbyn hyn!

Ffynhonnell y llun, Delwyn Siôn
Disgrifiad o’r llun,

Delwyn Siôn yn blentyn

Bydd yr oedfa ddydd Sul yn sgwrs rhwng Delwyn Siôn a John Roberts - am 12 ar Radio Cymru a bydd Delwyn Siôn yn sôn mwy am 'Un Seren' mewn sgwrs gydag Elin Fflur mewn rhaglen nos Fawrth, 22 Rhagfyr.

Hefyd o ddiddordeb: