Delweddau anweddus: Chwe blynedd o garchar i athro
- Cyhoeddwyd
Mae athro ysgol yng Nghaerdydd wedi cael ei garcharu am chwe blynedd a thri mis, ar ôl annog disgyblion i anfon lluniau anweddus ato dros gyfnod o bedair blynedd.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Richard Edmunds, 40 oed, wedi dweud wrth ddwy ddisgybl benywaidd y gallent ennill arian drwy anfon lluniau ohonyn nhw'u hunain yn noeth ato, i'w rhoi ar wefan ddychmygol.
Roedd Edmunds yn trwsio ffonau a chyfrifiaduron y disgyblion, ond ar yr un pryd roedd yn lawrlwytho delweddau preifat oedd wedi eu cadw arnynt.
Daeth yr heddlu o hyd i filoedd o luniau anweddus a ffilmiau o blant eraill ar ei gyfrifiadur. Roedd bron i 100 yn rhai Categori A, y math mwyaf difrifol.
Merch dan 16
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, John Ryan wrth y barnwr fod Edmunds wedi gofyn droeon i'r merched anfon lluniau ato.
Roedd un o'r merched dan 16 oed pan anfonodd hi 30 o luniau i Edmunds.
Clywodd y llys ei fod wedi dweud wrthi y dylai anfon 200 llun y dydd er mwyn ennill arian sylweddol.
Roedd wedi dweud wrth un arall ei bod yn ddyledus iddo am roi cefnogaeth emosiynol iddi.
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams fod Edmunds wedi meithrin perthyns gyda'r genethod, a bod nifer ohonynt yn fregus.
"Gwelsoch eu bregusrwydd fel gwendidau i fanteisio arnynt er mwyn eich boddhad rhywiol eich hun," meddai.
Llefain yn y llys
Roedd llawer o'r 14 o ddioddefwyr yn llefain yn y llys wrth i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi.
Clywodd y llys fod Edmunds wedi gwneud ffrindiau gyda disgyblion benywaidd tra roedd yn athro yn Ysgol Gyfun Radyr, a'i fod wedi cynnig eu helpu gyda phroblemau technegol ar eu ffonau symudol a chyfrifiaduron.
Tra roedd y dyfeisiadau yn ei feddiant, roedd yn lawrlwytho delweddau oddi arnynt.
Cafodd Edmunds ei arestio ar ôl i'r elusen Childline gysylltu â'r heddlu.
Plediodd yn euog i 19 o droseddau pan roedd yr achos ar fin dechrau yr wythnos diwethaf,
Cyfaddefodd i dri chyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant, a dau gyhuddiad o achosi neu annog ecsbloetio rhywiol.
Pleidiodd yn euog hefyd i 14 achos o sicrhau mynediad i ddeunydd ar gyfrifiadur heb ganiatâd gyda'r bwriad o feddiannu delweddau anweddus o blant.
'Achosi hunllefau'
Dywedodd Mr Ryan wrth y llys fod Edmunds wedi "chwalu personoliaethau byrlymus a chwalu hyder, achosi hunllefau ac achosi i ddioddefwyr deimlo'n ynysig".
Mewn datganiad ar effaith bersonol yr achosion, dywedodd un o'r genethod fod mynd i'r ysgol wedi troi'n rhywbeth "dychrynllyd" iddi.
Roedd un arall wedi dechrau anafu ei hun, ac roedd eraill ar feddyginiaeth at gorbryder ac iselder.
Ychwanegodd y barnwr fod y disgyblion, eu rhieni a'u gofalwyr yn ymddiried yn Edmunds, a'i fod wedi torri'r ymddiriedaeth hwnnw a manteisio arno.
"Fe wnaethoch gam-drin ymddiriedaeth merched yn eu harddegau ar adeg anodd, heriol a bregus yn eu bywydau pan mae hyder a theimladau o ddiogelwch yn brin," meddai. "Nid ydych wirioneddol yn edifar."