Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Cymru 38-18 Yr Eidal
- Cyhoeddwyd
Wedi ymgyrch siomedig yng ngemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref roedd buddugoliaeth nos Sadwrn yn erbyn yr Eidalwyr yn destun balchder wrth i'r ddau dîm gystadlu am y pumed safle ar Barc y Scarlets.
Roedd naw newid wedi cael ei wneud i'r tîm wnaeth golli yn erbyn Lloegr ac roedd yna Gymro Cymraeg hefyd ymhlith yr Eidalwyr - Stephen Varney o fro'r Preselau yn Sir Benfro.
Roedd hi'n amlwg bod Cymru ar dân ar y dechrau wrth i Kieran Hardy sgorio ei gais cyntaf i Gymru wedi i Justin Tipuric hollti'r amddiffyn ac roedd trosiad Callum Sheedy hefyd yn llwyddiannus.
Ymhen deg munud roedd Sam Parry yn sgorio ei gais cyntaf ef i Gymru ac roedd troed Sheedy yn llwyddiannus eto.
Ond yna fe waethygodd pethau i Gymru - cerdyn melyn i Josh Adams wedi 38 munud am ladd y bêl ac atal y chwarae ac wedi wedi dwy gic gosb a throsgais llwyddiannus i'r Eidalwyr roeddynt o fewn un pwynt i Gymru ar hanner amser 14-13.
Ar ddechrau'r ail hanner cic gosb i Gymru ond yna yr Eidalwyr ar y blaen o bwynt wedi cais gan Johan Meyer. O fewn munudau fe wnaeth Cymru daro nôl wrth i'r eilydd Gareth Davies sgorio cais ac wedi trosiad llwyddiannus arall gan Sheedy roedd y sgôr yn 24-18.
Ond nid dyna ddiwedd y ceisiau i Gymru - wedi 70 munud cais i George North a yna un i Justin Tipuric a Sheedy yn trosi yn llwyddiannus bob tro.
Y sgôr terfynol - Cymru 38, yr Eidal 18.
Cyn heddiw roedd Cymru wedi colli saith gêm allan o naw o dan Wayne Pivac.
Yn nhîm Cymru i wynebu'r Eidal yr oedd:
Liam Williams; Josh Adams, George North, Johnny Williams, Louis Rees-Zammit; Callum Sheedy, Kieran Hardy Williams; Nicky Smith, Sam Parry, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (capt), James Botham, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Leon Brown, Cory Hill, Aaron Wainwright, Gareth Davies, Ioan Lloyd Sheedy, Jonah Holmes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020