Ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth menyw 48 oed

  • Cyhoeddwyd
Helen BannisterFfynhonnell y llun, Family Photo
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Helen Bannister o'i hanafiadau yn yr ysbyty

Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad llofruddiaeth wedi i fenyw farw o'i hanafiadau yn yr ysbyty, ddyddiau wedi ymosodiad difrifol arni.

Roedd Helen Bannister, oedd yn 48 oed ac yn fam i ddau o blant, yn yr ysbyty.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i gyfeiriad yn ardal Mayhill, Abertawe ar 1 Rhagfyr.

Mae dyn 37 oed eisoes yn y ddalfa ar ôl mynd o flaen llys wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.

Dywed y llu y bydd Ms Bannister "yn cael ei cholli'n fawr gan deulu sydd wedi torri'u calonnau".

Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cymorth i'r tu, sydd wedi gofyn am breifatrwydd.

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth all helpu'r ymchwiliad.

Maen nhw hefyd "yn atgoffa pobl o bwysigrwydd peidio cyhoeddi unrhyw beth ar y cyfryngau cymdeithasol all amharu ar achos llys yn y dyfodol".