Llacio cyfyngiadau Covid dros y Nadolig 'yn gamgymeriad'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething: Fe allai Llywodraeth Cymru beidio llacio'r cyfyngiadau Nadolig

Byddai gwneud tro pedol ar y penderfyniad i lacio'r cyfyngiadau coronafeirws dros y Nadolig yn arwain at golli ymddiriedaeth y cyhoedd, yn ôl gweinidog iechyd Cymru.

Daw sylwadau Vaughan Gething yn dilyn rhybudd bod codi'r cyfyngiadau am bum diwrnod dros y Nadolig yn "gamgymeriad".

Dywedodd Linda Bauld, Athro Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caeredin, wrth BBC Breakfast fod pryder am bobl yn mynd i "weld anwyliaid" ac yn teithio rhwng "ardaloedd sydd â chyfraddau uchel i isel."

Mae pedair llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd hyd at dri chartref yn cael cwrdd y tu fewn rhwng 23 a 27 Rhagfyr.

Ond ers y cyhoeddiad ar 24 Tachwedd, mae nifer yr achosion positif o Covid-19 yng Nghymru wedi parhau i gynyddu.

Mae dros 100,000 o achosion positif bellach wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Cafodd 2,494 o achosion newydd eu cofnodi ddydd Sadwrn - y ffigwr dyddiol uchaf eto.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Gwener y bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu cyflwyno ar ôl y Nadolig, oni bai bod nifer yr achosion yn cwympo.

Fore Sadwrn, dywedodd Vaughan Gething y gallai Llywodraeth Cymru benderfynu peidio llacio'r cyfyngiadau rhwng 23-27 Rhagfyr os ydy'r feirws yn newid yn "sylweddol".

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae graff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos achosion positif Covid-19 fesul 100,000 o'r boblogaeth

Ond dywedodd y gweinidog iechyd bod yna "faterion enfawr yma ynglŷn ag ymddiriedaeth yn y llywodraeth".

"Pe byddem yn newid y rheolau hynny byddem yn colli llawer o ymddiriedaeth gan nifer fawr o bobl sydd wedi glynu gyda ni a byddem hefyd yn gweld, mae arna'i ofn, nifer o bobl yn barod i anwybyddu'r rheolau," meddai.

"Hyd yn oed gyda'r cytundeb ar waith rydyn ni'n debygol o weld nifer o bobl yn mynd y tu hwnt i hynny beth bynnag.

"Dyna pam rydyn ni'n rhagweld cynnydd ar ôl y Nadolig a pham rwy'n disgwyl y bydd cynnydd ar ôl Nos Galan hefyd."

Dywedodd yr Athro Linda Bauld: "O safbwynt iechyd cyhoeddus mae'n rhaid i mi fod yn berffaith onest, rwy'n credu bod hwn yn gamgymeriad.

"Rwy'n credu bod pobl, er ein bod ni'n cael gwneud hyn, rwy'n credu bod yn rhaid i bobl feddwl yn ofalus iawn p'un a allan nhw weld anwyliaid y tu allan neu ei wneud mewn ffordd gymedrol iawn.

"Rwyf hefyd yn poeni am y teithio, pobl yn mynd o ardaloedd gyda chyfraddau uchel i isel."

Disgrifiad,

Beth yw pwysigrwydd awyru wrth daclo Covid-19?

Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast fore Sadwrn, dywedodd Mr Gething fod y wlad yn wynebu "sefyllfa anhygoel o ddifrifol" gyda "llanw cynyddol o heintiau" ers llacio rheolau ar 9 Tachwedd.

"Mae hyn yn ddifrifol iawn. Mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan," meddai.

"Dylai'r holl bobl hynny sy'n gwneud y peth iawn ddal ati i wneud hynny, mae angen i bawb feddwl eto am faint o bobl maen nhw'n eu gweld, pa gyswllt maen nhw'n ei gael gyda nhw, a meddwl sut y gallwch chi leihau eich cyswllt i amddiffyn eich hun a'ch gilydd."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'r llywodraeth yn gweithredu pe bai'r cynnydd presennol mewn trosglwyddiad yn parhau cyn y Nadolig, dywedodd Mr Gething "ni allwch ddweud byth oherwydd gall y feirws newid yn sylweddol, rydym wedi ei weld yn codi'n gyflym".

"Ond nid setliad gwleidyddol yn unig yw'r cytundeb o amgylch cyfnod y Nadolig," meddai.

"Mewn gwirionedd... efallai y byddwn yn gweld llawer o bobl yn llunio eu rheolau eu hunain gyda'r gwir botensial o hyd yn oed yn fwy o niwed."

4,000 wedi'u brechu

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod tua 4,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechlyn Covid-19 erbyn 11:00 ddydd Gwener, 11 Rhagfyr.

Cafodd y brechlyn Pfizer/BioNTech ei roi i bobl am y tro cyntaf yng Nghymru ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr.

Fe fydd yn cael ei roi yn gyntaf i weithwyr iechyd a phobl dros 80 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod hefyd yn edrych "ar frys" am ffyrdd i frechu preswylwyr cartrefi gofal.

Oherwydd problemau gyda'r gallu i ddosbarthu'r brechlyn, sydd angen ei gadw ar dymheredd isel iawn, fe fydd yn rhaid i breswylwyr cartrefi gofal aros ychydig yn hirach.