Rhieni i gadw plant adref dros ofnau hunan-ynysu y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae rhai rhieni'n dweud eu bod am dynnu eu plant o'r ysgol yn gynnar yn sgil pryderon dros y broses o hunan-ynysu dros y Nadolig.
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru wedi dweud y dylai ysgolion aros ar agor tan 18 Rhagfyr, er gwaethaf galwadau gan rai undebau i ddod â gwersi i ben yn gynnar oherwydd Covid-19.
Ym Mlaenau Gwent bydd diwrnod olaf disgyblion yn yr ysgol ddydd Mercher cyn i wersi symud ar-lein tan ddiwedd y tymor, ar ôl i'r ardal weld y graddau heintio uchaf yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai'n "disgwyl i ysgolion weithredu fel arfer" oni bai bod rhesymau "eithriadol" dros iechyd y cyhoedd.
'Y plant wedi colli allan ar gymaint eleni'
Dywedodd cyn-athrawes ysgol gynradd, Victoria Rosser, 34 o Gwmbrân, ei bod wedi penderfynu tynnu ei phlant pump ac wyth oed o'r ysgol wythnos yn gynnar.
"Mae llawer o bwysau ar rieni," meddai.
"Rwy'n teimlo'r pwysau'n aruthrol. Byddai'r plant yn cael siom enfawr tase nhw'n dod i gysylltiad â phlentyn arall yr wythnos nesaf oedd yn bositif.
"Byddai'n golygu ynysu drwy gydol cyfnod y Nadolig a pheidio gweld eu neiniau a theidiau dros y Nadolig. Dwi hefyd yn poeni y gallen nhw ei drosglwyddo iddyn nhw.
"O fod yn athrawes, dwi'n deall pa mor bwysig yw ysgolion - ond dwi'n meddwl bod y Nadolig mor bwysig ac mae'r plant wedi colli allan ar gymaint eleni."
Dywedodd y fam i bedwar o blant ei bod hefyd yn poeni am ei hiechyd ei hun a lles ei merch newydd-anedig.
"Rwyf wedi clywed am lawer o deuluoedd yn gwneud hyn," meddai.
"Ar hyn o bryd rwy'n credu y byddai llawer o rieni'n hoffi tynnu eu plant allan am yr wythnos olaf."
'Ddim am ddifetha'r Nadolig'
Dywedodd Nic Cooke, 35 a hefyd o Gwmbrân, ei bod wedi gwneud yr un penderfyniad gyda'i phlant saith ac 11 oed.
"Mae llawer o bethau wedi'u difetha i ni a 'dan ni wedi addasu i ffyrdd newydd o fyw eleni oherwydd Covid. Dydw i ddim am adael iddyn nhw ddifetha'r Nadolig."
"Rwy'n rhiant sengl felly dwi mewn swigen gyda fy chwaer a'i theulu.
"Mae hi hefyd wedi penderfynu peidio ag anfon ei phlant i'r ysgol. Mae'r ddwy ohonom yn gweithio fel y gallwn rannu'r gofal plant.
"Rwy'n teimlo dros yr athrawon sy'n gorfod mynd i'r ysgol tan ddiwedd y tymor. Mae Blaenau Gwent yn cau o ddydd Gwener, rwy'n dymuno'n dda i'r holl ysgolion eraill hefyd."
Mae cynghorau Caerffili a Rhondda Cynon Taf hefyd yn bwriadu cau ysgolion ychydig ddyddiau cyn diwedd y tymor.
Fodd bynnag, ysgolion ym Mlaenau Gwent fydd y cyntaf yng Nghymru i roi'r gorau i addysgu wyneb yn wyneb, naw diwrnod cyn diwedd y tymor.
Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies yn dweud ei bod am weld ysgolion yn parhau i fod ar agor tan ddiwedd y tymor lle bo hynny'n bosib, ond mae'n galw am eglurder am yr hyn sy'n digwydd tymor nesa.
"Da ni angen gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd fis Ionawr," meddai.
"Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr nad ydyn ni'n gwybod yn iawn beth sy'n mynd i ddigwydd gyda'r feirws dros gyfnod y Nadolig.
"Ond rwy'n credu bod pawb eisiau gwybod cyn gynted â phosibl, a fydd plant 'nôl yn derbyn addysg wyneb yn wyneb ar ddechrau'r tymor newydd?"
Roedd undebau addysg wedi annog Llywodraeth Cymru i gau ysgolion yn gynnar er mwyn disgyblion, staff a'u teuluoedd.
Ond dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth y Senedd ddydd Mawrth fod ysgolion ymhlith y lleoedd mwyaf diogel i blant fod.
"Yr ofn yw y bydd plant sydd ddim yn yr ysgol mewn amgylcheddau hyd yn oed yn fwy peryglus," meddai.
'Adolygu'r dystiolaeth yn ddyddiol'
Wrth siarad ar Radio Wales, dywedodd y Gweinidog Addysg, Vaughan Gething bod dim achos o blaid cau ysgolion cynradd, a bod angen cadw mewn golwg y niwed i ddisgyblion pan fo ysgolion ar gau.
Ond mae Llywodraeth Cymru, meddai, "wrth gwrs yn adolygu'r dystiolaeth sy'n ein cyrraedd bob diwrnod".
Dywedodd: "Rydym yn cael trafodaethau o hyd gydag awdurdodau lleol ac rydym wedi cytuno y gall dysgu wyneb yn wyneb barhau tan ddiwedd wythnos nesaf.
"Os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn sylweddol ac ysgolion methu gweithredu gan fod staff yn absennol, fe allan nhw fod angen gwneud dewisiadau gwahanol."
Ychwanegodd: "Os oes angen cymryd camau ar gyfer y cyfnod wedi'r Nadolig, rydym yn gwybod bod angen rhoi amser i bobl baratoi. Mae'n bendant ym meddyliau'r llywodraeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020