Rhybudd gan wyddonwyr i osgoi aduniadau dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Christmas family gatheringFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgynghorwyr gwyddonol wedi rhoi "cyngor cryf" y dylai bobl osgoi dathlu adeg y Nadolig a hefyd osgoi aduniadau os yn bosib.

Daw'r rhybudd mewn adroddiad gan y corff sy'n cynghori Llywodraeth Cymru - y Grŵp Ymgynghori Technegol.

Yn ôl y Grŵp Ymgynghori Technegol fe ddylai teuluoedd gyda phlant ystyried hunan-ynysu gartref am 10 diwrnod cyn cwrdd â pherthnasau oedrannus.

Daw ar ôl i feddygon sy'n cynghori Llywodraeth Cymru hefyd ddweud bod trydedd don o coronafeirws yn "bryder pendant iawn, iawn".

Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi dweud bod gan y llywodraeth "ddewisiadau anodd i'w gwneud" ynghylch cyfyngiadau yn y flwyddyn newydd.

Fe fyddai cyfnod o ynysu cyn y Nadolig yn golygu mai dydd Gwener yma fyddai'r diwrnod ysgol olaf.

Ond mae Llywodraeth Cymru ynghyd â'r cynghorau sir wedi dweud y bydd ysgolion yn parhau ar agor tan ddiwedd y tymor ar 18 Rhagfyr.

Mae Llywodraeth Cymru ynghyd â llywodraethau eraill y DU wedi cytuno i ddilyn rheolau covid tebyg dros gyfnod y Nadolig, gan ganiatáu i aelodau tri o gartrefi i gymysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraethau'r DU wedi cytuno ar reolau tebyg dros gyfnod y Nadolig

Pryder yr adroddiad gan y grŵp ymgynghori yw bod caniatáu i wahanol genedlaethau gwrdd yn "hynod o debygol" i helpu lledu Covid-19.

Yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Mark Drakeford tra "byddai cyfnod o bwyllo am 10 diwrnod cyn cyfnod y Nadolig o fantais i deuluoedd", ond ei bod hi dal yn well i ysgolion aros ar agor tan ddiwrnod ola'r tymor - pan yn bosib.

"Y pryder yw y bydd plant sydd ddim yn yr ysgol mewn amgylchiadau eraill - a allai beri mwy o risg," meddai Mr Drakeford.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pryder ymgynghorwyr meddygol ydy y bydd unedau gofal dwys yn llawn eto os fydd y cynnydd mewn achosion yn parhau

Yn y cyfamser, dywedodd Dr Gill Richardson, cadeirydd bwrdd rhaglen brechlyn Covid-19 Llywodraeth Cymru, bod trydedd don eisoes yn bosibilrwydd go gryf mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Cafodd 2,000 o achosion Covid-19 eu cofnodi mewn un diwrnod am y tro cyntaf ddydd Llun, gyda chyfraddau mewn rhai ardaloedd ymhlith uchaf y DU.

Fe bwysleisiodd Dr Richardson fod angen i bobl barhau i gadw at y canllawiau.

"Trydedd don o coronafeirws yw ein pryder, ein hofn ni yn bendant iawn, ac yn anffodus, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae'n edrych felly."

Pynciau cysylltiedig