Cau uned mân anafiadau Ysbyty Bryn Beryl yn 'gywilyddus'

  • Cyhoeddwyd
Bryn beryl
Disgrifiad o’r llun,

Bydd uned mân anafiadau Ysbyty Bryn Beryl ynghau o 13 Rhagfyr am dair wythnos

Mae'n "gywilyddus" bod bwrdd iechyd yn cau uned mân anafiadau Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli am dair wythnos, yn ôl cynghorydd lleol.

Mae'r Cynghorydd Peter Read yn galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ailfeddwl, gan ddadlau bod Ysbyty Alltwen yn Nhremadog yn rhy bell i bobl sy'n byw ym mhen draw Llŷn.

Ond mae'r bwrdd iechyd yn mynnu bod yn rhaid cau'r uned mân anafiadau dros dro oherwydd heriau staffio.

Disgrifiodd y Cynghorydd Read y penderfyniad i gau yr uned mân anafiadau dros dro fel un cywilyddus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Peter Read yn galw ar y bwrdd iechyd i ailfeddwl

"Cywilydd iddyn nhw wneud y ffasiwn beth, a dwi'n gwybod yn iawn be' sydd wedi digwydd yno," meddai.

"Mae Alltwen yn agored 24 awr y dydd a does 'na neb yn mynd yno, ond eto maen nhw'n cau Bryn Beryl.

"Rhannwch y ddau - caewch Alltwen i lawr i 12 awr a fydd 'na ddigon o staff i redeg Bryn Beryl hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwen Vaughan ei bod yn poeni am yr effeithiau posib ar bobl Pen Llŷn

Mae Gwen Vaughan, sy'n byw ger Chwilog, hefyd yn poeni am y sefyllfa.

"Dwi'n poeni mwy am y bobl sy'n byw yr ochr arall i Bwllheli - pobl ym Mhen Llŷn," meddai.

"Da' ni yma yn Chwilog yn ddigon agos i Ysbyty Alltwen yn Nhremadog ond i bobl yn Aberdaron, Uwchmynydd, Tudweiliog ffor' 'na, mae ganddyn nhw hanner awr o siwrne i gyrraedd Bryn Beryl.

"Os ydyn nhw angen mynd i Alltwen, dyna chi ryw 13 milltir yn ychwanegol ar eu siwrne nhw.

"Os ydy rhywun mewn poen neu'n wael, wyt ti isio cael dy weld cyn gynted â phosib a chael y driniaeth cyn gynted â phosib yn does."

'Ymddiheuro am unrhyw amhariad'

Dywedodd Ffion Johnstone, cyfarwyddwr ardal y gorllewin ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, eu bod wedi penderfynu cau uned mân anafiadau Ysbyty Bryn Beryl dros dro "mewn ymateb i heriau staffio presennol".

"Bydd yr uned yn cau dros dro o ddydd Sul 13 Rhagfyr am dair wythnos," meddai.

"Byddwn yn adolygu hyn yn gyson ac yn gobeithio gallu dychwelyd i oriau agor arferol o 3 Ionawr, 2021.

"Hoffem ymddiheuro am unrhyw amhariad y gallai hyn ei achosi, ond ein blaenoriaeth yw gallu darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion a sicrhau lles ein staff ar yr un pryd.

"Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn darparu gwasanaeth mân anafiadau â staff cymwys sy'n ddiogel i'n cleifion."