'Penderfyniadau anodd' yn wynebu'r Gwasanaeth Iechyd
- Cyhoeddwyd
Bydd angen i'r Gwasanaeth Iechyd wneud "penderfyniadau anodd" y gaeaf hwn gan fod coronafeirws yn ymledu ar "raddfa frawychus", meddai'r Gweinidog Iechyd.
Daw wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos fod nifer y cleifion Covid-19 sydd mewn ysbytai yng Nghymru ar ei uchaf ers dechrau'r pandemig.
Mewn datganiad ysgrifenedig fe amlinellodd Vaughan Gething nifer o fesurau y byddai'n rhaid i fyrddau iechyd ddewis eu gweithredu os oedd pwysau ar y gwasanaeth yn parhau i gynyddu.
Mae'r rhain yn amrywio o atal clinigau cleifion allanol, cau gwasanaethau deintyddol cymunedol, gohirio triniaethau oedd wedi eu trefnu o flaen llaw, neu driniaethau canser nad ydynt yn rhai brys.
Mae'r datganiad ysgrifenedig yn golygu fod y Gweinidog Iechyd wedi rhoi caniatâd i fyrddau iechyd weithredu os oes perygl y byddant yn cael eu llethu gan bwysau gwaith yn yr wythnosau sydd i ddod - ac i flaenoriaethu staff ar gyfer gofal argyfwng.
Ym mis Mawrth fe benderfynodd Llywodraeth Cymru ohirio bron pob math o ofal nad oedd yn ofal mewn argyfwng wrth baratoi ar gyfer y don gyntaf o Covid-19.
Yn ystod yr ail don mae'r GIG wedi ceisio parhau gyda chyn gymaint ag sydd yn bosib o'r gwasanaethau hyn.
Ond mae'r datganiad yn gydnabyddiaeth o'r ffaith y gall rhai triniaethau nad ydynt yn rhai brys orfod cael eu gohirio am y tro.
Yn y datganiad, dywedodd Mr Gething: "Bydd y camau hyn yn lleddfu'r pwysau ar y GIG drwy eu galluogi i roi gwasanaethau a gwelyau i eraill ac adleoli staff i feysydd blaenoriaeth.
"Yn ogystal â chymryd y camau unigol o fewn cyd-destun lleol, rwyf hefyd yn disgwyl i sefydliadau'r GIG gydweithio i sicrhau gwydnwch yr ymateb brys y tu hwnt i'w ffiniau eu hunain."
'Tu hwnt i flinder'
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd undebau sy'n cynrychioli meddygon, nyrsys a staff gofal iechyd rheng flaen eraill fod ganddyn nhw bryderon sylweddol am yr effaith y bydd llacio'r rheolau am bum niwrnod dros gyfnod y Nadolig yn ei gael ar gyfraddau heintiau, a gallu'r GIG i ymdopi.
Dywedodd yr undebau fod eu staff "tu hwnt i flinder" ac y gallai trydedd don o'r haint fod yn ormod i'r staff.
Wrth groesawu'r mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd yr undebau:
"Os yw'r pwysau ar y gwasanaeth yn parhau i gynyddu, rhaid inni fod yn realistig ynghylch yr hyn y bydd yn ei olygu i gleifion mewn ysbytai lle mae pob gwely yn llawn - gan wneud triniaeth yn anodd a rhestrau aros yn hirach.
"Nid ydym yn ceisio newid y penderfyniad a wnaed am y Nadolig, ond mae gennym gyfrifoldeb i helpu i leihau unrhyw effaith ar y gwasanaeth iechyd, ei staff a'i gleifion.
"Mae'r staff wedi blino'n lân, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac maen nhw'n hynod bryderus am yr hyn sydd i ddod ym mis Ionawr.
"Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn, fel rydyn ni wedi'i wneud trwy gydol y pandemig, yw pan fyddwch chi'n gwneud eich dewisiadau am y Nadolig, eich bod chi'n cymryd y risg o ddifrif ac yn lleihau cyswllt ag eraill cymaint â phosib.
"Nid yw Covid-19 wedi diflannu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020