Covid-19: Bwrdd iechyd yn ymddiheuro i glaf canser
- Cyhoeddwyd
Mae claf canser o Drecelyn yn rhoi'r bai ar "ddulliau rheoli heintiau gwael" yn Ysbyty Brenhinol Gwent am iddo ef a thri chlaf arall ddal coronafeirws.
Mae Jim Pook yn un o 69 achos sydd wedi eu cysylltu gydag achosion o Covid-19 yn yr ysbyty yng Nghasnewydd mewn cyfnod o chwe niwrnod.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod 53 claf ac 16 aelod o staff wedi cael eu heffeithio ar saith ward ers 3 Rhagfyr.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i Mr Pook a'i deulu.
Fe aeth Jim Pook i Ysbyty Brenhinol Gwent yng nghanol mis Tachwedd ar ôl cwympo yn ei gartref. Yn yr ysbyty cafodd ddiagnosis o ganser.
Profodd y dyn 77 oed yn bositif am Covid dair wythnos yn ddiweddarach ar ôl bod yn yr un lle a chlaf oedd gyda'r feirws.
"Rhoddon nhw glaf â Covid mewn gyda ni o'r ward Covid ac roedd dal gyda fe'r feirws," meddai Mr Pook.
"Roedd e yna am dri diwrnod ac roedd e'n pesychu a'n pesychu a'n pesychu am dri diwrnod.
"Roedd chwech o ni yna, gadawodd un dyn ei hunan oherwydd bod ganddo fab i ddychwelyd adref ato, felly efallai roedd ganddo Covid - mae 'di mynd allan gyda fe.
"O'r tri allan o bedwar oedd ar ôl, roedd gennym ni gyd Covid."
"Roeddwn i mor ddig. Gwnaethon nhw drio cael ni i fynd adref wedyn - 'gallech chi fynd adref a gallech chi hunan-ynysu yn eich ystafelloedd gwely neu rhywle arall a dywedais, 'Beth? Fi'n mynd adref gyda fy mhlant a risgio nhw'n dal e'... 'ti'n cael jôc.'"
Gofynnodd BBC Cymru i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan am fanylion am unrhyw farwolaethau o ganlyniad i Covid-19 yn gysylltiedig ag Ysbyty Brenhinol Gwent ers i un gael ei ddatgelu yna yng nghanol Hydref.
Dywedodd y Bwrdd nad oedd y wybodaeth yn hawdd i gael gafael arno.
'Pawb yn defnyddio'r un peth'
Mae teulu'r Pooks yn un o sawl teulu sydd wedi son wrth y BBC am eu pryderon am reoli'r haint a chyfathrebu o fewn yr ysbyty.
"Doedd y nyrsys ddim yn gwisgo dim byd," meddai Mr Pook, wrth sôn am reoli'r haint.
"Pan ddaethon nhw i fi, nes i wneud nhw golchi eu dwylo achos roedden nhw wedi mynd o gwmpas y gweddill gyntaf - gwnaethon nhw ddim golchi eu dwylo pan aethon nhw o gwmpas y bechgyn eraill.
"Ac roedd gennych chi tua tair ward - chwech ym mhob ward, i gyd yn defnyddio'r un toiled a'r un gawod.
"Roedd pawb yn defnyddio'r un peth. Roedd e'n amlwg i ni fod e'n mynd i fynd trwy'r ysbyty'n gyflym."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Mae'r ysbyty o dan bwysau sylweddol ond mae diogelwch cleifion a staff yn flaenoriaeth.
"Rydyn ni'n cymryd cwynion, fel y rheiny a ddisgrifiwyd, yn ddifrifol iawn.
"Hoffwn ymddiheuro i Mr Pook a'i deulu, ac i gleifion arall, am y trallod a achoswyd ac ailadroddwn ein bod yn adolygu beth ddigwyddodd yn gyflym."
Mae achosion clwstwr Covid-19 wedi eu nodi mewn nifer o ysbytai yng Nghymru.
Y mwyaf difrifol yw yn Ysbyty Brenhinol Bro Morgannwg yn Llantrisant ble mae 85 person yn gysylltiedig gyda'r feirws wedi marw.
Yng ngogledd ddwyrain Cymru, mae nifer o deuluoedd yn dweud bod nhw eisiau atebion ar ôl gweld eu hanwyliaid yn dal Covid-19 ar ôl mynd i Ysbyty Wrecsam Maelor am driniaethau oedd dim i wneud â Covid.
Maen nhw'n honni i fethu a'u hynysu nhw'n iawn o gleifion eraill oedd gyda'r feirws.
Galw am atebion
Dywed AS Ceidwadol Gogledd Cymru Mark Isherwood fod angen atebion.
Wythnos ddiwethaf gofynnodd i'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ymateb i bryderon difrifol bod cleifion heb Covid wedi cael eu rhoi ar wardiau gyda chleifion gyda Covid yn Ysbyty Wrecsam Maelor.
"Mis diwethaf cysylltodd etholwr gyda fi, yn dweud bod ei dad, heb Covid, wedi cael ei roi ar yr un ward am dri diwrnod a hanner, a heb fod ei dad na'i deulu'n gwybod, bod rhai o'r cleifion ar y ward â Covid-19.
"Cafodd ei dad wedyn ei symud i Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt, Gobowen, ble roedd canlyniadau prawf o achosion positif o Covid-19 a'i fod wedi datblygu peswch oedd yn gwaethygu ac oedd yn peri gofid."
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn mynnu ei fod yn gwneud popeth yn ei allu yn Ysbyty Wrecsam Maelor i atal cleifion rhag dal Covid-19 tra yn yr ysbyty.
Dywedodd Debra Hickman, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth y bwrdd iechyd: "Mae pob mesur addas er mwyn atal heintio wedi cael eu cymryd yn ein hysbytai ac mae'r mesurau yn parhau i gael eu hadolygu wrth i ni ddysgu am y feirws ac wrth i'r canllawiau cenedlaethol gael eu diweddaru.
"Mae pob claf sy'n dod mewn i'n hysbytai yn cael eu sgrinio am Covid-19.
"Tan fod eu canlyniad prawf yn dod yn ôl, maen nhw'n cael eu gofalu am mewn ardaloedd penodol, ble mae'r holl fesurau i atal heintio mewn lle er mwyn lleihau'r risg o heintio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020