Gleision Caerdydd: 'Mae nawr yn frwydr i oroesi'
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr clwb rygbi Gleision Caerdydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried maint y cymorth ariannol mae'n ei gynnig yn ystod y pandemig coronafeirws.
Fe ddefnyddiodd Richard Holland yr enghraifft o £20m o fenthyciadau a grantiau sydd ar gael i brif glybiau rygbi'r Alban, tra bydd clybiau haen uchaf y gamp yn Lloegr yn derbyn £44m, yn bennaf ar ffurf benthyciadau.
"Mae nawr yn frwydr i oroesi," meddai Holland mewn datganiad.
Mae gan Lywodraeth Cymru gronfa adfer chwaraeon a hamdden gwerth £14m, ond nid yw'n cynnwys benthyciadau i'w talu'n ôl.
Ond mae clybiau rhanbarthol y Gleision, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau wedi manteisio ar fenthyciadau gwerth £20m oedd wedi eu trefnu gan Undeb Rygbi Cymru.
Yn ei ddatganiad, dywedodd Richard Holland: "Rydym yn ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau eglur a chymorth ariannol i rygbi proffesiynol yng Nghymru.
"Mae nawr yn frwydr i oroesi.
"Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw fod Llywodraeth Yr Alban wedi darparu cymorth ariannol i chwaraeon yn Yr Alban, gan gynnwys £20m i rygbi, Cymru nawr yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig i beidio a manteisio o gymorth tebyg.
"Fel mae pethau'n sefyll, bydd rygbi yn Lloegr hefyd yn derbyn £135m, yn cynnwys £59m i glybiau'r Uwch Gynghrair, ac mae Undeb Rygbi Iwerddon wedi derbyn £16m yn barod.
"Mae hyn yn cyfateb i £4-5m o gefnogaeth y llywodraeth i bob clwb proffesiynol ym Mhrydain ac Iwerddon, ac eithrio Cymru sydd wedi derbyn dim.
"Mae'n gwbl hanfodol bod rygbi proffesiynol yn derbyn lefelau tebyg o gefnogaeth gan ein llywodraeth.
"Heb y gefnogaeth hon mae'r dyfodol ar gyfer ein gêm genedlaethol gyfan, sy'n cyfrannu cymaint at yr economi a'r gymdeithas yn gyffredinol, yn llwm."
Bydd rygbi'r undeb yn Yr Alban yn derbyn £20m. Bydd £5m o'r arian mewn benthyciadau a £15m ar ffurf grantiau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol: "Mae gan y clybiau hawl i dderbyn cefnogaeth o wahanol gamau o gronfeydd economaidd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chynlluniau ffyrlo a chynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU.
"Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa adfer chwaraeon a hamdden gwerth £14m i helpu'r sector i ddelio â'r pandemig ac i baratoi ar gyfer dychwelyd torfeydd yn ddiogel.
"Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol i chwaraeon ac rydym yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu i asesu pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen."
Roedd y Gleision a gweddill y clybiau rhanbarthol Cymreig ymhlith 15 o brif sefydliadau chwaraeon Cymru i alw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu i gefnogwyr ddychwelyd i gemau yn ddiweddar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020