Cwpan Pencampwyr Ewrop: Dreigiau 8-24 Wasps

  • Cyhoeddwyd
Thomas YoungFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd y Cymro Cymraeg, Thomas Young un o geisiau'r ymwelwyr

Fe gollodd y Dreigiau gartref i Wasps yn eu gêm gyntaf ym mhrif gystadleuaeth Ewrop am dros ddegawd.

Bu'n rhaid i'r tîm cartref wneud newidiadau munud olaf i'r tîm ar ôl profion Covid positif ymysg y garfan.

Fe wnaeth chwech o'r garfan dynnu allan yn gynharach yn y dydd.

Sicrhaodd Wasps fuddugoliaeth pwynt bonws gyda cheisiau gan Tom Cruse, Dan Robson Jack Willis a Thomas Young.

Fe groesodd Jonah Holmes am y Dreigiau.

Roedd disgwyl i Ashton Hewitt, Lloyd Fairbrother, Aaron Wainwright a Harrison Keddie ddechrau ar gyfer y Dreigiau, ond bu'n rhaid iddyn nhw dynnu'n ôl ynghyd â'r eilyddion Leon Brown a Matthew Screech.

Daeth Aaron Jarvis, Holmes, Lewis Evans a Taine Basham i mewn i'r XV cychwynnol yn eu lle.

Dreigiau: J Lewis; J Rosser, N Tompkins, J Roberts, J Holmes; S Davies, R Williams (capt); B Harris, R Hibbard, A Jarvis, B Carter, J Maksymiw, L Evans, T Basham, O Griffiths.

Eilyddion: E Dee, J Reynolds, L Yendle, J Davies, L Greggains, T Knoyle, J Dixon, O Jenkins.

Wasps: L Sopoaga; Z Kibirige, P Odogwu, J Gopperth, J Bassett; C Atkinson, D Robson; T West, T Cruse, K Brookes, J Launchbury (capt), W Rowlands, J Willis, T Young, A Barbeary.

Eilyddion: G Oghre, Zhvania, J Toomaga-Allen, T Cardall, B Morris, W Porter, M Le Bourgeois, M Minozzi.

Pynciau cysylltiedig