Cymru wedi croesi trothwy cyfyngiadau clo newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru ar hyn o bryd yn torri rhai o'r llinynnau mesur allweddol fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu os fydd angen cyfnodau clo yn y dyfodol.
Mae hynny o dan system newydd o bedair lefel o gyfyngiadau Covid-19 gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y prif weinidog ddydd Gwener fod Cymru ar Lefel 3 ar hyn o bryd, ond efallai byddai angen cyflwyno cyfnod clo o 28 Rhagfyr os na fydd nifer yr achosion yn dechrau disgyn.
Bydd ysgolion ac addoldai yn aros ar agor ac fe fydd gwasanaeth clicio a chasglu nwyddau hanfodol yn parhau os bydd cyfnodau clo yn y dyfodol.
Dywed y 'Cynllun Rheoli Coronafeirws' newydd fod y rhaglen frechu yn cynnig "llygedyn o obaith", ond y bydd yn rhaid i "fesurau a rheolau diogelwch fod ar waith yn bell i mewn i 2021".
Mae'r cynllun newydd wedi'i rannu'n bedair lefel o gyfyngiadau:
Lefel 1 (risg isel): Cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy'n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
Lefel 2 (risg ganolig): Mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y feirws, gan gynnwys camau gweithredu lleol a roddir ar waith mewn ardaloedd neu safleoedd ble mae clwstwr o achosion.
Lefel 3 (risg uchel): Y cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo, fel yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
Lefel 4 (risg uchel iawn): Cyfateb i reoliadau'r cyfnod atal byr neu gyfnod clo. Gellid eu defnyddio'r rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo hirach.
Mae rhai o'r mesuryddion allweddol ar gyfer penderfynu ar symud i gyfyngiadau Lefel 4 yn cynnwys cyfradd achos saith diwrnod o dros 300 o achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth, a chyfradd positifrwydd uwch na 10% dros saith diwrnod.
Yn y saith diwrnod tan 9 Rhagfyr, roedd gan Gymru gyfradd achos o 450.4 a chyfradd positifrwydd o 19.5%, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae mesuryddion eraill yn cynnwys capasiti ysbytai a phryderon difrifol gan weithwyr iechyd nad ydynt yn gallu rheoli materion iechyd yn lleol.
Mae dau o saith bwrdd iechyd lleol Cymru - Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - wedi atal rhywfaint o ofal nad yw'n ofal brys mewn ymateb i fwy o achosion coronafeirws.
Mae Cymdeithas Gofal Dwys Cymru wedi dweud na fyddai gofal critigol yn gallu ymdopi yn ystod yr wythnosau nesaf heb "ymyrraeth ar y lefel uchaf".
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn annhebygol o gyflwyno unrhyw gyfyngiadau pellach cyn cyfnod o bum niwrnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr, pan fydd pobl o dair aelwyd yn gallu aros gyda'i gilydd.
Nid yw'r mesuryddion i bennu pa lefel o gyfyngiadau sy'n ofynnol "yn drothwyon mecanyddol - maent yn egwyddorion eang, fydd yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau cytbwys" medd y llywodraeth.
'Sioc fer a dwys'
Mae dogfen newydd y llywodraeth yn amlinellu bod "difrifoldeb" cyfyngiadau Lefel 4 "yn ei gwneud hi'n addas am gyfnodau byrrach i roi sioc fer a dwys cyn i'r sefyllfa olygu bod angen cyfnod hirach o amser" o gyfyngiadau clo.
Mae'r cynllun yn ychwanegu bod "ymyrryd yn gynnar yn fwy effeithiol a bod cyfyngiadau sydd gyda therfyn amser yn debygol o fod yn fwy effeithiol na chyfyngiadau penagored heb unrhyw ddyddiad gorffen penodol".
Fe allai Cymru symud i fyny mwy nag un lefel ar unwaith, o Lefel 1 i Lefel 3, er enghraifft, ond "bydd y cam o symud i lawr yn golygu un lefel ar y tro... a byddai unrhyw lacio ar gyfyngiadau yn annhebygol am nifer o wythnosau".
Bydd y pedair lefel o gyfyngiadau yn cael eu gweithredu ledled Cymru i ddechrau, ond gallai fod gwahaniaethau rhanbarthol neu leol "pe bai tystiolaeth glir o amrywiaeth parhaus rhwng rhannau o Gymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020