Gwella'n llwyr o ganser terfynol wedi triniaeth arloesol

  • Cyhoeddwyd
Helen Wynne Hughes a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Helen Hughes wedi cael cyngor i baratoi am y gwaethaf wrth ddathlu'r Nadolig y llynedd

Mae mam 32 oed o Sir Ddinbych oedd â chanser terfynol wedi clywed bod ei chanser wedi diflannu'n llwyr ar ôl triniaeth arloesol newydd.

Y llynedd, dywedodd meddygon wrth Helen Wynne Hughes o Ruthun i "baratoi ei theulu at y gwaethaf" gan nad oedd unrhyw driniaeth draddodiadol yn gweithio.

Yn ystod y cyfnod clo, mi gafodd driniaeth CAR-T - therapi sy'n defnyddio celloedd y corff ei hun i ymladd y canser.

Helen oedd y claf benywaidd cyntaf i gael y driniaeth dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Helen yn disgwyl ei merch Beca pan gafodd wybod bod lymphoma arni

Tydi stori Helen ddim yn hawdd i'w chlywed.

Ddwy flynedd union yn ôl, a hithau'n 25 wythnos yn feichiog, mi gafodd wybod bod ganddi lymphoma - canser ffyrnig, maint grawnffrwyth yn pwyso ar ei chalon.

Yng nghanol cemotherapi, mi roddodd enedigaeth i'w thrydydd plentyn. Cafodd sawl math o gemotherapi cryfach a radiotherapi, nes clywed, y llynedd, newyddion ysgytwol.

"Mi oedd y lymphoma 'di mynd i bob man," meddai. "Oedd o yn yr esgyrn, oedd o yn fy ysgyfaint, yn yr afu, yn fy mhen. A dyma fi yn dechre meddwl - dyma fo. A dyma nhw yn ista fi lawr ac yn d'eud: 'Ylwch, 'da ni'm yn siŵr iawn os oes 'na rywbeth arall fedran ni neud'.

"O'n i yn meddwl bod 'na ddim ffor' ymlaen. O'n i wedi paratoi ar gyfer y gwaetha'."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Priododd Helen ac Elgan yn 2019 wedi i feddygon ddweud nad oedd y triniaethau'n ei gwella

Mi gafodd gyngor gan y meddygon i baratoi ei theulu a chreu bocsys atgofion.

"Doeddan ni ddim wedi trafod efo'r plant be' oedd yn digwydd," meddai. "Bach iawn oedden nhw, felly o'n i'n trio d'eud 'falle Dolig ola' Mam efo chi'...

"Ond dwi'n falch bo' fi wedi g'neud y bocsys achos ma' 'na fwy yn mynd i gael eu rhoi yn y bocsys 'na rŵan."

Oes, mae 'na lawer mwy o atgofion i ddod, achos yng nghanol y cyfnod clo, mi gafodd Helen driniaeth arloesol CAR-T drwy'r gwasanaeth iechyd.

A thra rodd hi yn Ysbyty Christie Manceinion, am bum wythnos - roedd hi'n cadw cyswllt efo'i theulu drwy anfon fideos.

Proses ydy CAR-T, lle mae celloedd gwaed gwyn y claf yn cael eu hanfon i labordy arbennig yn yr Unol Daleithiau.

Yn fanno, mae'r celloedd yn cael eu haddasu yn enynnol fel eu bod yn lladd celloedd canser. Mae'r celloedd yna wedyn yn cael eu dyblygu cyn eu trallwyso yn ôl i waed y claf.

Mae'n debyg bod y math yma o therapi yn costio dros £300,000 i bob claf.

Ac roedd canlyniad y sgan ddiweddaraf yn sioc.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Helen yn derbyn y driniaeth arloesol ar ddechrau cyfnod clo'r pandemig

"Dyma fo'n d'eud 'Does 'na ddim canser o gwbl i weld mwyach'. Mae'r CAR-T 'di gweithio i mi, a dwi mor ddiolchgar i'r tîm ac i'r NHS ac i bawb sydd 'di helpu fi i gyrraedd fa'ma.

"I ddechre gyda, o'n i ddim yn coelio. O'dd rhaid i mi ofyn iddo fo ailadrodd yr hyn na'th o dd'eud, ac o'n i isio codi fyny a chofleidio Dr Patel ond o'n i'm yn ca'l... o'ddan ni wrth ein bodde."

Y cam nesa' ydy dod o hyd i roddwr gwaed i gryfhau'r imiwnedd, a sgan arall mewn ychydig fisoedd.

'Y plantos wedi 'nghadw i fynd'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Helen gyda Beca yn ystod sesiwn cemotherapi

Wrth siarad efo Helen, mae dewrder a sirioldeb yn llifo ohoni, ond mae'r profiad wedi creithio.

"Mae o'n anodd siarad amdano. Does neb isio clywed y pethe negatif, y gwir bethe 'dach chi'n 'i deimlo.

"Mae o'n anodd ffeindio rhywun i wrando achos ma' nhw'n trio deud 'tha chi 'Cadwch yn bositif' o hyd.

"Ac ydy, mae'n anodd cadw'n bositif o hyd, ond ma'r plantos yn cadw rhywun yn bositif iawn - ffeindio pethe doniol mewn pethe bob dydd. Ma' hynna'n cadw rhywun i fynd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Atgof o Nadolig cyn i Helen cael y diagnosis o ganser

Mae'r holl brofiad "wedi bod yn amser caled, amser hir", yn ôl ei gŵr, Elgan.

"Dim ots be' 'da ni wedi bod yn 'neud, mae hwn wastad wedi bod yng nghefn ein meddylie ni. Ac mae jyst ca'l newyddion fel hyn wedi bod yn wych - ac, ia, anrheg Nadolig ffantastig."

Yr anrheg Nadolig gorau i Helen yw cael "edrych ymlaen at weld y plant yn chwarae ac yn tyfu fyny" - Aled, Tomos, a Beca, sydd bellach yn bedair, dwy a 19 mis oed.

"Dwi'n edrych ymlaen at fynd yn ôl i 'ngwaith yn yr ysgol fatha athrawes," ychwanegodd, "a cha'l mwynhau bywyd unwaith eto".

Pynciau cysylltiedig