Defnyddio robot i dynnu canser o wddf claf am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae robot arloesol wedi tynnu canser o ben a gwddf claf yn y llawdriniaeth gyntaf o'i math yng Nghymru.
Mae disgwyl y bydd mwy na 20 o gleifion pob blwyddyn yn cael budd o'r gwasanaeth newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae llawfeddygon yn defnyddio robot sydd â nifer o freichiau i dynnu tiwmorau a gwella'r tebygolrwydd o wellhad didrafferth.
Mae'r claf cyntaf wnaeth dderbyn y driniaeth yn gwella'n dda yn dilyn ei lawdriniaeth ym mis Rhagfyr.
Cyn i'r driniaeth fod ar gael yng Nghaerdydd roedd cleifion o Gymru yn gorfod teithio mor bell â Newcastle am lawdriniaeth o'r fath.
Cafodd Martin Griffiths, 48, wybod yng ngwanwyn y llynedd bod ganddo ganser yn ei wddf oedd yn anodd ei gyrraedd.
Fe gafodd ei ddewis gan lawfeddygon i fod y claf cyntaf yng Nghymru i dderbyn y driniaeth robotig.
"Roedden nhw'n gallu mynd yn bellach i mewn i fy ngwddf gyda'r peiriant - rhywbeth doedden nhw ddim yn gallu ei wneud gyda'u dwylo," meddai Mr Griffiths.
"Roedden nhw'n gallu bod yn fwy cywir ac fe wnaethon nhw gael y canser i gyd allan y tro cyntaf."
Mewn rhai achosion mae'n rhaid torri gên y claf er mwyn rhoi'r driniaeth i dynnu canser o'r pen a'r gwddf.
Ond does dim rhaid gwneud hynny gyda'r driniaeth newydd, sy'n golygu bod cleifion yn gallu gwella'n gynt.
"O fewn pedwar diwrnod ro'n i'n bwyta fel yr arfer ac fe ges i adael ar y pumed diwrnod," meddai Mr Griffiths.
Mae'r peiriant wedi bod yn Ysbyty Athrofaol Cymru ers pum mlynedd, ond hyd yn hyn mae wedi bod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llawdriniaethau prostad ac aren.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2014