Nadolig Elin Fflur
- Cyhoeddwyd
Mae Elin Fflur wrth ei bodd gyda chyfnod y Nadolig. Mae'n cyfadde', diolch i'w Mam, ei bod hi'n 'mynd dros ben llestri' wrth baratoi at yr ŵyl, a gan bod eleni yn wahanol iawn gyda'r dyddiadur dathliadau yn wag, mi fydd pob rhan o'r tŷ wedi ei addurno yn fwy nag erioed i 'godi calon'.
Yma, mae'r gantores a chyflwynydd yn trafod ei hatgofion am Nadoligau ei phlentyndod a sut y bydd yn dathlu'n wahanol eleni:
'Nadolig fy mhlentyndod'
Bai Mam ydi o mod i mor wirion am y 'Dolig! Mae gen i atgofion lyfli o'r cyfnod yn tyfu fyny. Roedd hi'n gneud yr holl beth yn magical iawn i ni, roedd 'na seremoni i wneud y goeden ac addurno'r tŷ. A dydd 'Dolig oeddan ni'n cael mynd i tŷ Nain a Taid yn y pnawn ac oeddan nhw yn caru'r 'Dolig 'run fath.
Roedd Mam yn athrawes ac yn sgwennu ac arwain lot o gyngherddau 'Dolig, ac oeddan ni yn perfformio ynddyn nhw. O'n i'n byw mewn cymuned glos ar y pryd, ac oedd 'na lot yn mynd i'r ysgol Sul a roedd 'na gyngherddau yn y pentra. Oedd o'n lyfli.
Dwi'n cofio un 'Dolig pan o'n i'n blentyn, ar Noswyl Nadolig o'n ni'n gwylio'r Chwadods ar y teledu a finna'n troi at Mam yn dweud 'fyswn i wrth fy modd yn cael caneuon Chwadods ar gasét' (dyna pa mor hen ydw i!)
A fore 'Dolig, wel be' oedd yn yr hosan? Casét Chwadods... mae'n amlwg oedd Siôn Corn wedi rhagweld y byswn i ei eisiau. Roedd hud a lledrith y peth mor fyw i fi.
'Mynd dros ben llestri am y 'Dolig'
Dwi'n mynd yn hollol dros ben llestri am y 'Dolig. Ond mae'n fy ngwneud i'n hapus, a blwyddyn yma dwi 'di penderfynu dio ddim ots pa mor extreme dwi'n mynd, achos mae pawb angen rhywbeth i godi calon.
Dwi'n hoffi cael rhywbeth ymhob stafell, hyd yn oed os ydy hi'n goeden fechan, mae gen i goeden yn y gegin, y lounge... dwi'n rhoi petha' fyny yn y bathroom hyd yn oed, ac mae gen i bedding Nadolig... dwi'n mynd dros ben llestri'n llwyr!
Fe wnaethon ni briodi adeg 'Dolig, ar y 15fed o Rhagfyr wyth mlynedd yn ôl. Roedd yn hyfryd paratoi at y briodas, ac mi oedd yn lyfli gyda brass band a choed 'Dolig. Roedd yn Nadoligaidd iawn.
Nadolig 2020: Gwahanol i'r arfer
Fel arfer byswn i allan bob penwythnos y mis yma, mewn partis gwaith, yn cwrdd â ffrindiau, mae pawb yn trio dal i fyny efo'i gilydd, ond eleni wrth gwrs does dim o hynna wedi digwydd. Mae wedi bod yn fis Rhagfyr hynod o ryfedd ac anarferol, ond mae'n rhaid i ni dderbyn y sefyllfa a chadw'n gilydd yn saff.
Eleni [y cynllun ar hyn o bryd] ydy bod fy nheulu'n dod aton ni - gan gadw at y cyfyngiadau. Bydd yn neis i fod gyda'n gilydd diwrnod 'Dolig, ond mae'n anodd oherwydd fyddwn ni'n methu gweld pawb wrth gwrs.
Canu deuawd gyda Mam
[Mi fydd Elin Fflur i'w chlywed mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru, Elin Fflur a'i ffrindiau, ar 22 Rhagfyr am 21:00 ac eto ar ddydd Nadolig am 14:00, lle mae'n canu deuawd gyda'i Mam Nêst Jones yn ogystal â Rhys Meirion. Ymhlith yr artistiaid eraill mae Mei Gwynedd, Delwyn Siôn a Caryl Parry Jones.]
Dwi'n canu deuawd gyda fy Mam sy'n sbeshal iawn, a'r ddwy ohonan ni yn mwynhau 'Dolig gymaint, mae hwnna'n rhywbeth i ni'n dwy gofio.
Wnaeth Mam sgwennu'r gân ar gyfer un o'i chyngherddau 'Dolig pan o'n i'n ifanc a dwi'n ei chofio hi'n glir o'r cyngherddau hynny. Pan o'n i'n yr ysgol, wnes i ag un arall ei chanu hi felly wnes i feddwl bysa'n lyfli i ddod â honno nôl. Fe wnes i dwistio'i braich hi a dweud 'C'mon Mam, mae'n rhaid i ni wneud hyn!'
Dwi wrth fy modd efo'r ddeuawd yna, mae 'di bod yn bleser.
Dwi ddim yn perfformio rhyw lawer gyda Mam, ond fe wnaeth hi ganu efo fi ar [raglen S4C] Deuawdau Rhys Meirion. Fe wnaeth hynny danio rhywbeth ynddo ni a dyna pam wnaethon ni wneud hwn. Falle y flwyddyn nesaf fe wnawn ni wneud rhywbeth arall, ond mae trio cael Mam ar y llwyfan efo fi yn dasg fwy!
Sut flwyddyn fu 2020?
Eleni, dwi wedi bod yn ofnadwy o lwcus o ran fy ngwaith, yn cyflwyno rhaglen Heno. Yn rhyfeddol wnaethon ni lwyddo i gario mlaen hyd yn oed ar gychwyn y pandemig, fe wnaethon ni ffeindio ffordd i weithio. Ac mae'r rhaglen wedi bod yn gysur i bobl, 'dan ni wedi cael yr ymateb yna.
Dwi mor browd o bawb ar y rhaglen, mae'n grêt be' 'dan ni wedi gallu cyflawni mewn cyfnod anodd.
Wedyn fe ddaeth Sgwrs dan y Lloer [ar S4C] a weithiodd yn hyfryd - mynd i erddi pobl i siarad, fedri di ddim galw hwnnw yn waith bron iawn, roedd yn bleser!
Roedd gweithio ar raglen Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 i S4C lle roedden ni'n gwobrwyo pobl sy' wedi bod yn 'neud pethau'n eu cymunedau yn ystod y pandemig, yn sbeshal iawn hefyd ac yn gwneud i mi sylweddoli bod rhaid gwerthfawrogi pob dim eleni.
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur iawn ar un agwedd, ond mae fy mhenwythnosau i gyd wedi bod yn wag, sy'n anarferol, fyswn i allan yn canu mewn gig yn rhywle, ond mae'r perfformio wedi stopio yn gyfan gwbwl.
Dwylo Dros y Môr
[Mae fersiwn 2020 o'r gân elusennol wedi ei rhyddhau, 35 mlynedd ers y fersiwn wreiddiol, y gân elusen Gymraeg gyntaf erioed.]
Roedd yn lyfli cael bod yn y stiwdio a chanu am ddiwrnod cyfan wrth recordio Dwylo Dros Y Môr.
Ond roedd y llais 'di blino erbyn diwedd, oedd o gymaint allan o bractis. Wnes i hefyd ryddhau sengl Enfys i godi arian i Tarian Cymru yn y pandemig.
Mae rhywun wedi trio ffeindio ffyrdd i fod yn greadigol, ac eleni, dwi di meddwl mae'n bwysig i werthfawrogi bob dim.
Hefyd o ddiddordeb: