Teyrnged i ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Jordan IngramFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jordan Ingram wedi'r gwrthdrawiad ar 5 Rhagfyr

Mae teulu dyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mannau Brycheiniog wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Jordan Ingram, oedd yn 19 oed, wedi'r digwyddiad yn ardal Storey Arms tua 22:30 nos Sadwrn, 5 Rhagfyr.

Un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad, sef ei gar Mini Cooper du.

Mewn datganiad gan ei fam Nikki Ingram, dywedodd bod hithau a'i dad, Paul Ingram, yn cofnodi "marwolaeth drasig ein mab hardd.... bydded i Jordan orffwys mewn hedd".

Mae hefyd wedi diolch Heddlu Dyfed-Powys am eu cymorth "rhagorol".

Mae'r llu'n parhau i apelio am wybodaeth neu luniau dash cam gan unrhyw un a welodd y cerbyd yn yr ardal ar noson y gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig