Bethan Arwel: Gwobr Academi a bywyd yn Awstralia
- Cyhoeddwyd
Mae Bethan Arwel yn gynhyrchydd teledu, yn byw gyda'i gŵr Rhodri a'u merch fach Beca yn Sydney. Yn ddiweddar enillodd Bethan wobr yr Academi yn Awstralia am raglen ddogfen a gynhyrchodd ar gyfer Channel 4 yn y DU a Sianel 7 yn Awstralia.
Yma mae'n trafod ei gwaith a'i bywyd, a sut fydd Nadolig yn yr haul yn wahanol iawn i adre':
Dw i'n gweithio fel Cynhyrchydd Cyfres llawrydd, yn arbenigo mewn rhaglenni dogfen a ffeithiol yma yn Sydney, Awstralia.
Eleni, ro'n i'n ffodus iawn i ennill y wobr Best Documentary/Factual Series yng ngwobrau'r Academi 'AACTA' (Australian Academy of Cinema and Television Arts Awards) sy'n gwobrwyo rhaglenni teledu, dramâu a ffilmiau yn Awstralia. Maen nhw gyfystyr â gwobrau BAFTA yng Nghymru a Phrydain.
Fi oedd yn gyfrifol am y gyfres ddogfen Murder in the Outback: the Lees and Falconio Mystery, yn edrych nôl ar ddiflaniad y backpacker o Brydain, Peter Falconio yn 2001 a chymryd golwg newydd ar y wybodaeth oedd gan yr heddlu am yr achos. Cafodd y gyfres ei chomisiynu gan Channel 4 ym Mhrydain a Sianel 7 yma yn Awstralia.
Mae'r seremoni wobrwyo fel arfer yn ddigwyddiad arbennig yn llawn wynebau enwog ond yn anffodus eleni cafodd y gwobrau eu heffeithio gan reolau Covid ac roedd yn rhaid gwylio o adre!
'Bywyd hyfryd i deuluoedd yn Sydney'
Dw i a fy ngŵr Rhodri a'n merch fach Beca, sy'n ddwy oed, ar hyn o bryd yn byw yn Sydney, ers 2016.
Roedd Rhodri a finnau'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio ym myd y cyfryngau, doedd ganddon ni ddim plant ar y pryd, ac felly roedd y ddau ohonon ni'n edrych am antur. Penderfynon ni symud i Sydney gan fod ffrindiau i ni o Gymru yma'n barod, ac rydyn ni wedi bod yn mwynhau bywyd yma yn fawr iawn ers hynny.
Mae bywyd yn Awstralia yn hyfryd iawn i deuluoedd fel ni. Rydyn ni'n byw yn agos at y ddinas a hefyd yn agos iawn at y traeth ac mae'r tywydd yn braf neu'n gynnes y rhan fwyaf o'r amser.
Cymraeg ydy iaith ein cartref ni, a dyna'r iaith mae Beca yn ei chlywed bob dydd, ond mae hi'n dysgu siarad Saesneg yn y feithrinfa leol.
Mae bywyd yn braf iawn, rhaid dweud, ond wrth gwrs rydyn ni'n aml yn teimlo colli ffrindiau a theulu adre, yn enwedig ar hyd o bryd, gan na allwn ni deithio nôl i Gymru o Awstralia oherwydd Covid.
Rheolau Covid 'caeth' yn Awstralia
Mae rheolau ynglŷn â theithio yn gaeth iawn yma yn Awstralia.
Cafon ni gyfnod o hunan ynysu am ryw wyth wythnos yn ystod mis Mawrth ac Ebrill fel y rhan fwya' o'r byd ac mae'r wlad yn gwrthod gadael i bobl ddod i mewn ac allan na symud o gwmpas y lle.
Mae pob talaith yma wedi cau ei ffiniau, felly dydyn ni ddim wedi gallu teithio allan o New South Wales, nag allan o Awstralia ei hun.
Dim ond nifer bach iawn o bobl sy'n gallu hedfan yma, ac os ydyn nhw'n ddigon lwcus i dderbyn fisa i ddod yma, maen nhw'n gorfod aros mewn gwesty am bythefnos yn hunan-ynysu, a hynny'n syth o'r maes awyr.
Felly does bron dim salwch Covid yn Awstralia nawr.
Rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn bod Covid ddim wedi effeithio lawer ar ein bywydau a'n gwaith, er hyn mae cwpwl o aelodau o fy nheulu yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan y salwch, ac roedd hynny'n amser anodd.
'Nadolig tawel eleni'
Ro'n i wedi gobeithio teithio nôl i Gymru y flwyddyn yma, ond gan nad oedd hynny'n bosibl, mi fydd hi'n Nadolig tawel iawn eleni.
Mae dathlu'r Nadolig yng nghanol yr haf yn od iawn ac fel arfer fyddwn ni'n mynd i'r traeth rhyw ben ddiwrnod Nadolig. Mi 'newn ni weld ffrindiau agos yma, mae'n rhy boeth i fwyta cinio twrci a'r holl 'drimins', felly - yn dilyn y traddodiad yn Awstralia, siŵr 'newn ni fwyta pysgod a llysiau neu salad. Dim cweit fel Nadolig adre!
Mi fyddwn yn cael babi newydd ym mis Mai felly bydd bywyd yn newid eto cryn dipyn dw i'n siŵr! Ond bydd hi'n braf iawn cael amser adre gyda Beca a'r teulu y flwyddyn nesa, yn bendant!
Hefyd o ddiddordeb: